Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cynllun Grantiau Cymunedol a Rhaglen Celfyddydau Creadigol

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf. mewn 2 ran:

Rhan 1 - Cynllun Grantiau Cymunedol, sy’n ceisio galluogi sefydliadau llai, fel clybiau chwaraeon lleol a sefydliadau celfyddydol a diwylliannol i:

  • ymgeisio am gyllid i gefnogi gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol a chreadigol lleol
  • cefnogi cyfleusterau chwaraeon lleol, cynnal twrnameintiau, datblygu a sefydlu timau a chynghreiriau newydd

Rhan 2 - Rhaglen Celfyddydau Creadigol a fydd yn gweithio â phartneriaid trydydd sector allweddol a phartneriaid cymunedol ac iechyd i ddarparu rhaglen gyfranogol y celfyddydau mewn iechyd a lles, mewn lleoliadau cymunedol, gofal cymdeithasol ac iechyd.

Diweddariad y prosiect

Mawrth 2024

Dyma rai o’r prif weithgareddau sydd wedi’u cynnal hyd yma o ganlyniad i’r cyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin:

  • Sesiynau wythnosol Ymgolli mewn Celf i bobl sy’n byw â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a gynhelir yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Mae’r cyfranogwyr yn gweithio ag artistiaid proffesiynol ac yn dwyn ysbrydoliaeth o’r arddangosfeydd yn yr oriel wrth lunio eu gwaith creadigol eu hunain.
  • Elusen yw KIM-Inspire sy’n darparu cymorth iechyd meddwl proffesiynol yng nghymuned Prestatyn. Gall pobl leol gyfeirio’u hunain at y gwasanaeth a chael cefnogaeth gan dîm KIM-Inspire.  Bu prif artist DLL yn gweithio gydag un o’r grwpiau i wella eu lles drwy ymyriadau creadigol.
  • Mae DLL yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Gerdd William Mathias, elusen sy’n gweithio ledled gogledd Cymru i ddarparu hyfforddiant cerddorol, llwyfannu perfformiadau a darparu cyfleoedd creadigol. Cynhelir sesiynau bob wythnos ar Zoom i bobl yn Sir Ddinbych ag anableddau dysgu. Mae’r cyfranogwyr yn garfanau o bobl sy’n derbyn cymorth gan Wasanaethau Cymorth Cymunedol Cyngor Sir Ddinbych a phobl sy’n byw ag anableddau dysgu mewn amryw ganolfannau. 
  • Mae DLL yn darparu’r sesiynau yng nghanolfannau gofal ychwanegol Awel y Dyffryn yn Ninbych a Llys Awelon yn Rhuthun mewn partneriaeth â Chanolfan Gerdd William Mathias a Grŵp Cynefin.  Cynhelir y sesiynau dan arweiniad Therapydd Cerdd cymwys a’u nod yw helpu i annog pobl i gysylltu â’i gilydd a hybu eu lles.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro