Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Canolbwynt Cymunedol Neuadd y Dref Rhuthun

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Cwmni Buddiannau Cymunedol Marchnadoedd Crefftwyr Rhuthun

Trosolwg o’r prosiect

Nod y prosiect hwn yw creu Canolbwynt Cymunedol i bobl o bob oed a gallu yn Rhuthun, gan wella cyfleusterau Neuadd y Farchnad, Neuadd y Dref a’r Hen Orsaf Dân, gan gynnwys:

  • gosod mynedfeydd ar draws yr adeiladau, er mwyn eu gwneud yn hygyrch
  • gwneud newidiadau i gefn yr adeiladau, gan gynnwys gwella’r mannau parcio fel eu bod yn gydlynol
  • Ychwanegu:
    • gardd synhwyraidd ar gyfer unigolion â dementia
    • ardal chwarae i blant
    • ardal eistedd i bobl gwrdd
    • gardd gymunedol ar gyfer grŵp cymunedol Incredible Edible
    • Symudedd siopau
    • Cyfleuster lle newid yn Neuadd y Dref

Diweddariad y prosiect

Mai 2024

Hyd yn hyn, mae'r prosiect hwn wedi cwblhau arolwg gwydro eilaidd, arolwg coed a thynnu asbestos. Mae cynlluniau ar gyfer y prosiect wedi cael eu harddangos yn

Yr Hen Lys ar Sgwâr Rhuthun i'r cyhoedd eu gweld a rhoi adborth drwy arolwg. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd hefyd i hyn yn y cyfryngau lleol i helpu i roi hwb i nifer yr ymatebion.

Sefydlwyd cydberthnasau gwaith gyda nifer o sefydliadau sy'n dymuno archebu'r gofod ar gyfer gwahanol weithgareddau a digwyddiadau unwaith y bydd yn barod, gan gynnwys:

  • Youth Shedz
  • Stand Gogledd Cymru
  • Dementia-gyfeillgar Rhuthun a'r Côr Cymunedol
  • Gŵyl Rhuthun
  • Mudiad Meithrin
  • U3A Rhuthun a'r Cylch
  • Cymdeithas Panto Rhuthun
  • Rhwydwaith Celfyddydau Rhuthun
  • Outside Lives Ltd

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro