Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Canolfan Ddiwylliant, Treftadaeth a Lles y Farchnad Fenyn

Arweinydd y Prosiect: Mind Dyffryn Clwyd
Mae’r prosiect nawr wedi’i gwblhau.
Trosolwg o’r prosiect
Mae’r prosiect yn ymwneud â datblygu canolbwynt twristiaeth a chymunedol i gefnogi adfywio yn Ninbych. Bydd y prosiect yn dod â sefydliadau’r trydydd sector ynghyd, yn creu menter gymdeithasol, sicrhau cynaliadwyedd Amgueddfa Dinbych a chreu gofod deniadol ar gyfer y gymuned leol a thwristiaeth yn ehangach i sicrhau fod Dinbych yn dod yn gyrchfan i ymwelwyr.
Bydd y prosiect yn dod â bywyd yn ôl i adeilad o bwysigrwydd sylweddol i dreftadaeth Dinbych.
Mae’r Farchnad Fenyn wedi ei lleoli ar dir sy’n ffinio â Llain y Capel a Lôn Crown yng nghanol Dinbych. Mae’r adeilad wedi bod yn wag ers mis Gorffennaf 2018.
Diweddariad y prosiect
Crynodeb olaf y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025
Mae ailddatblygiad y Farchnad Fenyn yn Ninbych wedi trawsnewid adeilad treftadaeth a oedd wedi bod yn wag ers amser yn ganolbwynt cymunedol amlddefnydd bywiog, sy’n darparu mannau hygyrch ar bedwar llawr.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys
- caffi cymunedol
- amgueddfa
- ystafelloedd cwnsela
- swyddfeydd ac ardaloedd rhannu desgiau, gan gefnogi sefydliadau fel Mind Dyffryn Clwyd a’r Fenter Iaith
Ariannwyd drwy gymysgedd o ffynonellau lleol a chenedlaethol, mae'r prosiect yn gwella:
- iechyd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd
- ehangu gwasanaethau iechyd meddwl
- hybu’r Gymraeg
- chreu cyfleoedd i wirfoddoli a chael cyflogaeth
Mae’r canolbwynt hwn yn cyd-fynd yn strategol â nodau lles a ffyniant cenedlaethol, a disgwylir iddo roi hwb i adfywio canol y dref, cynyddu nifer yr ymwelwyr, a bod yn fodel cynaliadwy ar gyfer datblygiad a arweinir gan y gymuned.