Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cronfa Allweddol Gallu Cymuned

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd Prosiect: Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Nod y prosiect yw trawsnewid pŵer a gallu pobl yn y Trydydd Sector ac o fewn cymunedau ledled Sir Ddinbych i greu a darparu gwasanaethau hanfodol mewn byd heriol sy’n newid. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar:

  • Meithrin gallu arweinyddiaeth gynaliadwy mewn sefydliadau Trydydd Sector i allu:
    • gwneud y mwyaf o ymateb y sector i heriau ac anghenion cymdeithasol sy'n dod i'r amlwg
    • tyfu gwasanaethau i lenwi’r bylchau
    • buddsoddi mewn gwytnwch sefydliadol
  • Creu a darparu model ar gyfer gweithio mewn cymunedau i feithrin hyder a sgiliau pobl i gyd-gynhyrchu datrysiadau i broblemau lleol
  • Darparu rhaglen grantiau arwyddocaol wedi’i thargedu at gefnogi arloesedd, gwytnwch a chynaliadwyedd sefydliadau’r Trydydd Sector sydd eisoes yn bodoli ac er mwyn datblygu rhai newydd.

Diweddariad y prosiect

Mawrth 2024

Dyma rai o’r pethau pwysicaf y mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych wedi’u cyflawni ers cael cyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin:

  • Mae’r holl grantiau Cyfalaf a Refeniw yng Nghylch 1 wedi’u talu - cynhaliwyd pob cyfarfod monitro ac mae tystiolaeth o ganlyniadau a deilliannau’n cael ei chasglu ar hyn o bryd. Mae’r prosiectau’n ennyn cryn ganmoliaeth.
  • Cynhaliwyd pedwar o Ddosbarthiadau Meistr 321 - cafwyd ymateb ardderchog i’r pedwerydd un (Rheoli Newid).
  • Sefydlwyd deuddeg o berthnasau hyfforddi â Phrif Swyddogion mewn sefydliadau trydydd sector.
  • Cychwynnodd yr ail gylch o’r Gronfa Allweddol ar 01/03/2024 a daeth i ben ar 31/3/24.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro