Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Partneriaeth Sgiliau Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: The Little Learning Company

Trosolwg o’r prosiect

Prosiect treftadaeth a sgiliau a fydd yn cefnogi a diogelu hen grefftau, dulliau adeiladu a pheirianneg drwy greu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a rhannu gwybodaeth rhwng amryw safleoedd yn Sir Ddinbych, gan sicrhau bod gogledd Cymru ar flaen y gad wrth hybu sgiliau treftadaeth. Bydd y prosiect yn:

  • Cynyddu’r gallu i ddarparu hyfforddiant yn y sector.
  • Creu a hwyluso cyfleoedd i rannu gwybodaeth a chefnogi’r rhwydwaith sgiliau treftadaeth presennol.
  • Datblygu a darparu cyfleoedd newydd i bobl 16 oed a hŷn ymuno â’r sector.
  • Creu nifer o gyfleoedd i bobl symud ymlaen i Addysg Bellach, Addysg Uwch neu gael gwaith.
  • Helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau treftadaeth.
  • Cysoni’r ddarpariaeth sgiliau treftadaeth â phrif ffrydiau cyllido.
  • Darparu cyfleoedd newydd i bobl wella eu sgiliau rhifedd.

Diweddariad y prosiect

Mawrth 2024

Mae’r Little Learning Company wedi gwneud llawer o gynnydd yn y misoedd diwethaf.

Dechreuodd y prosiect rentu Ystafell Ddiogel gan yr Armoury Conservation Trust ar 1 Chwefror a byddant yn dal i wneud hynny tan 31 Hydref 2024. Maent wedi gallu defnyddio’r ystafell ar gyfer cynnal cyrsiau a chyfarfodydd a chadw offer.

Cynhaliwyd nifer helaeth o gyrsiau, gan gynnwys crefftau, codi waliau cerrig, ffeltio gwlyb, gwehyddu ar wŷdd pegiau a chwrs Hyfforddi’r Hyfforddwr lefel 2, gyda llu o gyrsiau eraill ar y gweill.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro