Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Rhaglen Strategol Sir Ddinbych yn Gweithio

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Nod Sir Ddinbych yn Gweithio yw mynd i’r afael â thlodi drwy gefnogi trigolion Sir Ddinbych i gael addysg, gwaith neu hyfforddiant.

Mae’r rhaglen yn darparu llwybr mwy syml i bob preswylydd gael cefnogaeth ac mae’n sicrhau eu bod yn cael eu paru â phrosiectau sydd ag arbenigedd sy’n berthnasol i’w hanghenion penodol nhw.

Diweddariad y prosiect

Mawrth 2024

Ers mis Ebrill, mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi cynorthwyo 484 o bobl yn Sir Ddinbych a oedd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol. Bu modd inni ddarparu amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys lleoliadau gwaith, cyngor ar lunio CV a cheisiadau, sgiliau cyfweld, cyngor ar les a meithrin hyder a chydnerthedd y bobl hynny sydd angen y gefnogaeth fwyaf i ymuno â’r gweithlu. Er mwyn sicrhau ein bod yn ymwneud â’r bobl yn y cymunedau maent yn byw ynddynt, buom yn cydweithio â Grŵp Cydweithredol Ymgysylltu a Lles Sir Ddinbych, Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych a Chyngor Sir Ddinbych drwy’r llyfrgelloedd a’r adrannau cymdeithasol, cymunedol a thai.

Rydym wedi sicrhau lleoliadau gwaith â thâl gyda chyflogwyr lleol ym meysydd bwyd a diod, siopau, adeiladu, gofal anifeiliaid, addysg, gofal cymdeithasol, gweinyddu a llawer o feysydd eraill. 

Bu’r prosiect yn darparu hyfforddiant ers yr hydref, gan gynnwys:

  • Hyfforddiant barista a Thystysgrifau Hylendid Bwyd – helpu pobl i weithio yn y diwydiant lletygarwch ac arlwyo.
  • Hyfforddiant a thrwyddedau i helpu pobl i weithio yn y diwydiant adeiladu.
  • Cymorth Cyntaf Oedolion a Phlant – helpu pobl i weithio ym maes gofalu.
  • Cyrsiau SIA sy’n galluogi pobl i weithio yn y diwydiant diogelwch.
  • Gyrru tryc fforch godi a chymwysterau eraill ar gyfer y sector warysau a gweithgynhyrchu.
  • Amrywiaeth o gyrsiau ymarferol i gynorthwyo pobl i ddefnyddio offer ar gyfer garddio a rheoli cefn gwlad.

Cynhaliom amryw ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys Ffair Swyddi ym mis Ionawr a ddenodd fwy o bobl nag erioed o’r blaen. 

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro