Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cymru Gynnes - Cefnogi Cymunedau

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Cymru Gynnes

Mae’r prosiect nawr wedi’i gwblhau.

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y cynllun peilot hwn yn gweithio â chymunedau yn Sir Ddinbych, gan gynnwys blynyddoedd 5, 8, 9 a 10 mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a phreswylwyr â phob mathau o ddaliadaeth. Bydd yn edrych ar bobl, eiddo, llefydd a phartneriaethau er mwyn

  • annog gweithredu cymdeithasol i wella lles, hyder a sgiliau pobl
  • annog gwirfoddoli sy’n cael mwy o effaith, gweithio â’r gymuned ehangach i addysgu pobl, codi ymwybyddiaeth pawb o effeithlonrwydd ynni, technoleg werdd ac effaith tlodi tanwydd a’r argyfwng costau byw
  • darparu cyngor a chymorth yn rhad ac am ddim i bobl leihau eu biliau ynni a defnyddio ynni’n fwy effeithlon

Diweddariad y prosiect

Crynodeb olaf y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025

Mae’r prosiect Cymru Gynnes wedi darparu cefnogaeth allweddol i drigolion Sir Ddinbych drwy gynnig cyngor ar arbed ynni, eitemau ymarferol, a thalebau i helpu i leihau biliau a chadw’n gynnes dros y gaeaf.

Drwy weithdai creadigol a digwyddiadau Hyrwyddwyr Cymunedol, ymgysylltodd y fenter â thros 120 i150 o bobl gan godi ymwybyddiaeth am dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni.

Mae allgymorth addysgiadol mewn ysgolion wedi rhoi hwb i hyder disgyblion a dysgu trawsgwricwlaidd.

Mae cyfranogwyr wedi nodi sefydlogrwydd ariannol gwell, cartrefi cynhesach, llai o straen, gydag 89% yn nodi iechyd meddwl gwell a 92% yn profi effaith bersonol gadarnhaol.

Mae’r prosiect hefyd wedi cryfhau cysylltiadau cymdeithasol, gan greu llefydd diogel a chynhwysol ar gyfer dysgu a chefnogi drwy bartneriaethau lleol cryf.

Mawrth 2024

Mae Cymru Gynnes, ar y cyd â Haywire ac Outside Lives, yn dal i weithio’n galed wrth estyn allan i’r gymuned a darparu cymorth. Drwy ddarparu amrywiaeth helaeth o wasanaethau, gan gynnwys cymorth dros y ffôn, gweithdai wyneb yn wyneb ac estyn allan, maent yn bodloni anghenion amrywiol boed hynny’n helpu â thrafferthion ag ynni a dŵr neu sefydlu banciau bwyd a thanwydd i gynorthwyo’r gymuned mewn argyfwng.

Mewn partneriaeth â Haywire, cynhaliwyd gweithdai llwyddiannus mewn ysgolion ynglŷn â defnyddio ynni’n effeithlon, gan ennyn diddordeb disgyblion cynradd ac uwchradd a hybu gwell dealltwriaeth o’r cysyniadau ynglŷn ag ynni sy’n berthnasol i’w cwricwlwm.

Bu Outside Lives yn arwain y gwaith o recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer y prosiect Cartrefi Hapus Iach. Mae calendr o ddigwyddiadau wedi’i drefnu ar gyfer 2024 a phartneriaethau strategol wedi’u sefydlu â mudiadau lleol. Y nod yw creu rhwydwaith o hyrwyddwyr i hybu lles cymunedol.

Bu Cymru gynnes hefyd yn cydweithio ag ymarferwyr theatr Haywire, gan sicrhau cysondeb creadigol a medru gwahodd disgyblion i arddangos eu gwaith creadigol mewn digwyddiadau yn y dyfodol.