Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Gwarchodfa Natur Green Gates

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych
Mae’r prosiect nawr wedi’i gwblhau.
Trosolwg o’r prosiect
Nod y prosiect hwn yw creu gwarchodfa natur 13.3 hectar yn Green Gates, ger Parc Busnes Llanelwy.
Bydd y datblygiad yn cynnwys plannu coed a blodau gwyllt lleol, ffurfio pyllau a gwlypdiroedd a chreu cynefin i fywyd gwyllt, yn cynnwys gaeafdy a thwr sy’n addas i ystlumod/adar glwydo ynddo, gan hefyd adael rhai ardaloedd heb eu datblygu i adfywio’n naturiol.
Byddai mynediad i’r gymuned ac addysg amgylcheddol ar gael trwy lwybrau a phlatfformau, byrddau dehongli a digwyddiadau.
Diweddariad y prosiect
Crynodeb olaf y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025
Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar greu 70 erw o warchodfeydd natur. Darparodd dros 132,000 m² o fannau gwyrdd, a phlannwyd 5,750 o goed, a helpu i greu llwybrau troed.