Mae Swm Cymudol yn daliad gan ddatblygwyr i awdurdod lleol pan nad oes modd creu man awyr agored mewn datblygiad. Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i wella mannau agored a mannau chwarae, fel rheol yn yr un dref neu gymuned â’r datblygiad. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gellir defnyddio'r arian mewn trefi neu gymunedau cyfagos (cyn belled â'u bod yn y sir).
Cyllid
Mae'r gronfa hon ar gau ar hyn o bryd.
Pwy all wneud cais?
Mae sefydliadau sy’n cael gwneud cais am arian yn cynnwys:
- Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned
- Grwpiau gwirfoddol a chymunedol
- Elusennau
- Sefydliadau sector cyhoeddus
- Clybiau chwaraeon amatur
- Cyngor Sir Ddinbych
Ni fydd clybiau chwaraeon a chlybiau aelodaeth breifat nad ydynt n cynnig y dewis i ‘dalu a chwarae’, yn gymwys i wneud cais am arian.
Pa fath o brosiect sy’n gymwys?
Gellir defnyddio’r arian i greu mannau agored newydd neu i wella’r ddarpariaeth bresennol, a thrwy hynny gynyddu’r defnydd.
Gall gwelliannau dilys i’r ddarpariaeth bresennol gynnwys:
- diweddariadau i’r amrediad o gyfleusterau sydd ar gael (gan gynnwys diweddaru hen offer) ond nid cyfnewid eitemau nad oes modd eu defnyddio oherwydd diffyg gwelliannau cynnal a chadw er mwyn i’r safle/cyfleuster fod yn fwy hygyrch;
- gwaith i gynyddu defnydd o’r cyfleuster (h.y. arwyneb pob tywydd);
- draenio neu waith arwyneb er mwyn ymestyn y defnydd o’r cyfleuster;
- gwaith ffensio a goleuo er mwyn gwneud y cyfleuster yn fwy diogel;
- darparu cyfleusterau newid er mwyn cynyddu’r defnydd;
- parcio ceir, neu wasanaethau hanfodol eraill i gynyddu ac ymestyn defnydd.
Mae arian ar gael ar gyfer mannau agored hamdden cyhoeddus yn yr awyr agored ac sydd â mynediad agored a’r dewis i ‘dalu a chwarae’. Mae mannau agored fel ardaloedd gwyrdd a choetiroedd yn gymwys cyn belled â bod y prosiect yn cynyddu gwerth hamdden y lleoliad. Mae parciau a gerddi ffurfiol ble gall pobl ymarfer hefyd yn gymwys fel y maen cyfleusterau chwaraeon ffurfiol gyda mynediad cyhoeddus agored.
Am fwy o wybodaeth am bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol a chanllawiau cynllunio atodol, ewch i dudalennau Cynllun Datblygu Lleol.
Arweiniad pellach
Cysylltwch â communitydevelopment@denbighshire.gov.uk am ragor o wybodaeth.