Croeso i'r bedwaredd newyddlen ar gyfer prosiectau Cronfa Adfywio Lleol yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.
Mae'r newyddlen hon yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prosiectau sy'n cael eu hariannu drwy Gronfa Adfywio Lleol Llywodraeth y DU. Mae’r arian a sicrhawyd wedi’i ddyrannu ar gyfer y 7 prosiect llwyddiannus hyn yn unig ac nid oes modd eu trosglwyddo i brosiectau neu wasanaethau eraill. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch yr holl brosiectau ar gael ar wefan y Cyngor.
Dilynwch Gyngor Sir Dinbych ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y saith prosiect.
Promenâd Canolog a Pharth Cyhoeddus Canol Tref y Rhyl
Pwrpas y Prosiect: I greu canol y dref sydd yn fwy deniadol a hygyrch, cryfhau’r cysylltiad rhwng y promenâd a’r stryd fawr.
Fe ymgysylltodd tîm y prosiect â busnesau lleol ym mis Ebrill. Roedd yr adborth gan fusnesau am gynigion dylunio yn gadarnhaol. Mae nifer fechan o fusnesau wedi mynegi pryderon am gael meinciau y tu allan i’w heiddo, yn bennaf oherwydd pryderon ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn hytrach na newid dyluniad cyffredinol y cynllun, rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i ystyried sut gellir rheoli’r gofod yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys archwilio dulliau ar y cyd o orfodaeth, mynd i’r afael ag yfed ar y stryd, ac ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ehangach, i helpu i sicrhau bod yr ardal yn ddiogel ac yn groesawgar i bawb.
Fe fydd y digwyddiad cyhoeddus nesaf yn cael ei gynnal ym Marchnad y Frenhines ar 1 Gorffennaf 2026. Yn ystod y digwyddiad fe fydd modd i chi weld y dyluniad manwl a bydd tîm y prosiect ar gael i ateb cwestiynau. Bydd y dyluniadau hefyd ar gael ar-lein ac yn Llyfrgell y Rhyl.
Parc Poced Porth y Rhyl
Pwrpas y Prosiect: I gael gwared ar adeiladau anniogel yn 123-131 Stryd Fawr a chreu gofod gwyrdd croesawgar gyda phlanhigion a seddi i bawb eu mwynhau.
Mae caniatâd Cynllunio a Draenio Cynaliadwy wedi cael eu derbyn sydd yn garreg filltir fawr sydd wedi’i gwblhau. Er mwyn symud ymlaen â’r gwaith dymchwel, mae’n rhaid datrys y broblem plâu ac mae tîm y prosiect wedi penodi contractwr rheoli plâu arbenigol i wneud y gwaith. Fe fydd y gwaith o gysylltu ag eiddo a busnesau lleol yn dechrau’n fuan.
Byddwn yn hysbysebu'r contract dymchwel ac yn gwahodd contractwyr i gyflwyno eu cynigion unwaith y bydd y gwahanol ganiatâd wedi’i gael.
Er mwyn lleihau'r aflonyddwch, mae'r gwaith dymchwel yn cael ei gynllunio at yr hydref. Unwaith y bydd contractwr wedi'i benodi a'r amserlen wedi'i chadarnhau, byddwn yn rhannu'r manylion llawn, gan gynnwys pryd y bydd y gwaith yn dechrau a sut y bydd yn cael ei wneud.
Parc Poced Porth y Rhyl: Golygfa Gogledd Orllewin:

Parc Poced Porth y Rhyl: Golygfa Gogledd Ddwyrain (Nos)

Hen Ysbyty Gogledd Cymru
Pwrpas y Prosiect: I amddiffyn yr Adeilad Rhestredig Gradd II trwy gael gwared ar rannau anniogel a chefnogi’r gwaith adfer a’i ddefnydd at y dyfodol.
Dechreuodd gwaith alluogi ar y safle ym mis Tachwedd ac mae bellach wedi’i gwblhau, yn cynnwys symud ac adleoli rwbel i alluogi mynediad at y cam nesaf, ynghyd â chlirio llystyfiant i wneud y gwaith o arolygu’n haws. Yn ychwanegol, mae mesurau lliniaru ecolegol wedi cael eu cwblhau, yn cynnwys adeiladu dwy ysgubor i ystlumod.
Mae Jones Bros wrthi’n gwneud gwaith diogelwch ychwanegol ar y safle, gan ganolbwyntio ar ddiogelu adeiladau pwysig allai fod yn beryglus. Mae’r mesurau yma wedi’u hanelu at amddiffyn y strwythurau presennol a chymaint ag sy’n bosibl, lleihau’r perygl o fynediad diawdurdod er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a staff y safle.
Mae’r contract ar gyfer Cael Gwared ar Asbestos, Dymchwel a Chlirio’r Safle bellach wedi cael ei arwyddo’n ffurfiol, ac mae Jones Bros wrthi’n paratoi i ddechrau gweithio ar gam nesaf y prosiect.
Hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych:


Ystad Ystlumod:

Hen Ysbyty Gogledd Cymru - Dinbych
Stryd Fawr Prestatyn
Pwrpas y Prosiect: I wella’r stryd fawr gyda mannau cyhoeddus gwell a phlanhigion, gan ei gwneud hi’n haws i bawb gael mynediad.
Prawf traffig
Mae’r prawf traffig yn parhau gyda system ddwyffordd ar waith ar Ffordd y Bont. Mae cam 2 y prawf fod i ddechrau ddydd Gwener 26 Mehefin. Fe fydd y cam yma’n golygu gwrthdroi llif y traffig ar hyd rhan isaf y Stryd Fawr, felly bydd cerbydau’n teithio i fyny’r Stryd Fawr o’r gylchfan fachan. Fe fydd y newid yma’n golygu fod yna dair allanfa yn y parc manwerthu: Ffordd y Bont, Stryd Fawr a Ffordd Llys Nant.
Ni fydd cerbydau’n cael troi i’r chwith i’r Stryd Fawr oddi ar Ffordd Pendyffryn ac yn hytrach, bydd angen iddynt fynd i ochr yr orsaf betrol ar hyd Ffordd Llys Nant a thrwy’r parc manwerthu. Bydd data’n cael ei gasglu o gamera sydd wedi’i leoli ger yr orsaf betrol er mwyn asesu dwy gam y prawf.
Ymgynghoriad cyhoeddus
Mae ymgynghoriad cyhoeddus bellach yn fyw a bydd ar agor tan ddydd Sul 5 Gorffennaf 2026. Mae’r ymgynghoriad ar gael ar-lein, ac mae dyluniadau wedi’u cyhoeddi ar wefan y Cyngor drwy’r dolenni isod ac maent hefyd ar gael i’w gweld yn Llyfrgell Prestatyn.
Fe wnaethom hefyd gynnal digwyddiad gwybodaeth i’r cyhoedd yn Sinema Scala ar 3 Mehefin, lle cafodd y mynychwyr weld dyluniadau cysyniadol ac ymgysylltu mewn trafodaethau gwerthfawr gyda thîm y prosiect a’r peirianwyr.
Digwyddiad Gwybodaeth Gyhoeddus:

Fe fydd adborth o’r ymgynghoriad yn helpu i lywio dyluniad terfynol y cynllun a fydd yn mynd allan i dendr yn yr hydref. Fe fydd hefyd yn helpu i benderfynu a ddylai’r trefniadau traffig presennol ddod yn barhaol, neu a ddylai Ffordd y Bont a rhan isaf y Stryd Fawr ddychwelyd i’r gosodiad gwreiddiol.
Dyluniad manwl
Ar ôl yr ymgynghoriad, bydd unrhyw newidiadau angenrheidiol i’r dyluniad yn cael eu gwneud yn ystod cyfnod yr haf.
Caffael
Fe fydd y prosiect yn mynd allan i dendr yn yr hydref i benodi contractwr ar gyfer y cam adeiladu. Y gobaith yw dyfarnu’r contract cyn diwedd y flwyddyn, gan roi amser i’r contractwr gychwyn y gwaith paratoi yn gynnar yn 2027.
Parc Natur Morfa Prestatyn
Pwrpas y Prosiect: I wella’r gwlypdir fel man heddychlon a hygyrch i bawb ei fwynhau, gyda chysylltiadau gwell i gerddwyr a beicwyr.
Mae’r prosiect yn parhau i weithio’n agos gyda Network Rail i sicrhau bod y llwybr natur yn cysylltu’n esmwyth â’u gwelliannau mynediad. Mae cyfarfodydd rheolaidd hefyd yn cael eu cynnal gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod y llwybr yn bodloni gofynion mynediad ac ystyriaethau o ran risg llifogydd.
Mae tîm y prosiect yn gweithio gydag arbenigwyr amgylcheddol i amddiffyn bywyd gwyllt lleol. Mae arolygon wedi cadarnhau nad oes yna weithgarwch gan rywogaethau a warchodir, megis llygod pengrwn y dŵr ar hyd y llwybr arfaethedig, er efallai y bydd angen rhywfaint o waith lliniaru i wella’r cynefinoedd gerllaw.
Y garreg filltir bwysig nesaf yw cwblhau’r dyluniad peirianneg, cadarnhau costau, a pharatoi’r ceisiadau cynllunio a thrwydded risg llifogydd angenrheidiol.
Diolch i chi am eich diddordeb parhaus yn y Gronfa Adfywio Lleol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych. Edrychwn ymlaen at rannu mwy o ddiweddariadau wrth i’r prosiectau hyn ddatblygu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gysylltu, mae croeso i chi gysylltu â ni ar corporateprogrammeoffice@denbighshire.gov.uk.