Stryd Fawr Prestatyn: prosiect gwelliannau i'r barth cyhoeddus
Rydym yn edrych ar opsiynau i gwneud gwelliannau i'r barth gyhoeddus (man gweladwy) yn Stryd Fawr Prestatyn.
Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth y DU dan rownd 3 cyllid y Gronfa Ffyniant Bro. Bydd y prosiect yn rhan o Falchder Bro ac Amgylchedd Naturiol Sir Ddinbych.
Beth ydym yn ei wneud?
Fel rhan o Gronfa Adfywio Leol Llywodraeth y DU, dyrannwyd cyllid i Gyngor Sir Ddinbych i gynnal nifer o brosiectau a fydd yn helpu i wella edrychiad a theimlad rhai o ardaloedd allweddol Sir Ddinbych.
Un o’r ardaloedd hynny yw’r parth cyhoeddus (man gweladwy) ar Stryd Fawr Prestatyn.
Pam ydym ni'n gwneud hyn?
Prestatyn yw ail dref fwyaf Sir Ddinbych. Gyda thraeth tywodlyd hir a mynediad da i brif lwybrau trafnidiaeth, mae hefyd yn gyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid/ymwelwyr.
Ariannwyd y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU dan rownd 3 cyllid y Gronfa Ffyniant Bro.
Gweler y rhestr lawn o brosiectau Rownd 3 y Gronfa Adfywio Leol a ariannwyd gan Lywodraeth y DU.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Hoffem wybod beth yw eich barn am y dyluniad manwl a gynigiwyd ar gyfer cynllun Stryd Fawr Prestatyn.
Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?
Rydym yn gobeithio, drwy ddeall beth sy'n bwysig i bobl sy'n byw ym Mhrestatyn, yn gweithio ynddo neu'n ymweld â Phrestatyn yn rheolaidd, y byddwn yn gallu dylunio cynllun gwella cymedrol a fydd yn helpu i wneud y Stryd Fawr yn fwy deniadol ac yn annog pobl i dreulio mwy o amser yno.
Sut ellwch chi gymryd rhan?
Cymerwch rhan yn ein harolwg
Os ydych chi'n byw, yn gweithio neu’n ymweld â Phrestatyn, byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg canlynol:
Ffurflen adborth: Stryd Fawr Prestatyn: prosiect gwelliannau i'r barth cyhoeddus (gwefan allanol)
Gellir cael copïau papur o’r arolwg a’u dychwelyd yma:
Llyfrgell a Siop Un Alwad Prestatyn,
Rhodfa Brenin,
Prestatyn,
LL19 9AA
Gallwch e-bostio:swyddfarhaglencorfforaethol@sirddinbych.gov.uk
Gallwch ysgrifennu at:
Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol,
Blwch Post 62,
Rhuthun.
LL15 9AZ,
Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw: Dydd Sul 5 Gorffennaf 2026.
Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?
Byddwn yn casglu’r holl ymatebion i’r arolwg ac yn rhoi adborth yn y hydref.
Adborth
Gwiriwch yn ôl ar gyfer canlyiadau