Rhwydwaith Heneiddio'n Dda yn Sir Ddinbych
Mae grŵp Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych, yn rhwydwaith aml asiantaeth hir-sefydlog sydd yn cynrychioli sefydliadau ac unigolion o bob sector. Mae’r rhwydwaith yn cyfarfod bob chwarter gyda nod a rennir o wella profiad pobl hŷn yn Sir Ddinbych, a chymryd dull cydweithredol sydd yn pontio’r cenedlaethau. Mae aelodau yn cynnwys unigolion hŷn a chynrychiolwyr o’r sector statudol a sector gwirfoddol.
Mae gennym Gynllun Gweithredu Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych 2024-2027, sy’n cyd-fynd yn agos â Chynllun Corfforaethol ein Cyngor Sir, sydd hefyd yn gwasanaethu fel ein Cynllun Lles a’n Cynllun Cydraddoldeb. Un o themâu allweddol ein Cynllun Corfforaethol yw hyrwyddo diogelwch, gwytnwch a lles pobl o bob oedran, drwy gryfhau rhwydweithiau cymunedol. Mae’r rhwydweithiau hyn yn helpu pobl i fyw’n ddiogel, hapus, annibynnol, gan sicrhau bod cefnogaeth ar gael pan fydd angen, a chyfrannu at y weledigaeth o ‘Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalus’.
Rydym ni hefyd wedi alinio â chanlyniadau lles yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (gwefan allanol) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (gwefan allanol), yn ogystal â Strategaeth Pobl Hŷn yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru (gwefan allanol) ac yn bwysicaf, Cynllun Gweithredu Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (gwefan allanol), “gweithredu i amddiffyn hawliau pobl hŷn, rhoi diwedd ar oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran, rhoi diwedd ar gam-drin pobl hŷn a galluogi pawb i heneiddio’n dda.”
Mae ein Cynllun Gweithredu Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych 2024-2027 hefyd yn cyd-fynd â Fframwaith ‘Dinasoedd sy’n Gyfeillgar i Oedran’ Sefydliad Iechyd y Byd’ (gwefan allanol).
Ym mis Mehefin 2025, derbyniwyd Cyngor Sir Ddinbych ar Rwydwaith Byd-eang y Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Oedolion Hŷn. Trwy ymuno â'r Rhwydwaith, ymrwymodd Heneiddio'n Dda yn Sir Ddinbych i hyrwyddo egwyddorion cyfeillgar i oed Sefydliad Iechyd y Byd, yn cymryd camau i greu amgylcheddau lleol sy'n fwy cyfeillgar i oedran, ac yn cyfrannu'n weithredol i'r Rhwydwaith. Dysgwch fwy am ymrwymiad Heneiddio'n Dda yn Sir Ddinbych, trwy fynd i Sir Ddinbych - Byd Gyfeillgar i Oed (gwefan allanol).
Datblygodd Dinasoedd a Chymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed Sefydliad Iechyd y Byd fframwaith yn seiliedig ar wyth maes ar gyfer gweithredu cyfeillgar i oed:
- Gofod tu allan ac adeiladau
- Cludiant a symudedd
- Tai
- Cyfranogiad cymdeithasol
- Parch a chynhwysiant cymdeithasol
- Ymgysylltiad dinesig a chyflogaeth
- Cyfathrebu a gwybodaeth
- Cefnogaeth gymunedol a gwasanaethau iechyd
Mae pob maes yn cynrychioli agwedd bwysig ar fywyd cymunedol. Er bod yr wyth maes yn rhyng-gysylltiedig, gellir eu grwpio’n fras yn ôl tri maes: yr amgylchedd cymdeithasol, yr amgylchedd ffisegol a gwasanaethau trefol. Mae’r meysydd hyn yn darparu fframwaith ar gyfer creu cymunedau lle gall pobl heneiddio’n dda a pharhau i fod yn egnïol, yn ddiogel, a chael eu cynnwys.
Dathlu Oedran: Heneiddio'n Dda yn Sir Ddinbych
Rydym ni’n cefnogi ac yn hyrwyddo dathliadau i bobl hŷn yn Sir Ddinbych, yn cynnwys gweithgareddau a gynhelir bob blwyddyn ar 1 Hydref i nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn. Mae’r digwyddiad yn cydnabod cyfraniadau gwerthfawr pobl hŷn, yn codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â heneiddio ac yn hyrwyddo gwell ymwybyddiaeth o gyfleoedd a heriau yn gysylltiedig â heneiddio.
I ddysgu mwy am Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych, cysylltwch:
