Cynllun Gweithredu Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych

Datblygwyd y Cynllun Gweithredu gan aelodau Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych gyda mewnbwn gan bobl hŷn o bob cwr o’r sir.

Gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych, mae’n nodi sut fydd Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych yn cydweithio i helpu pobl heneiddio’n dda a gwneud Sir Ddinbych yn lle hygyrch, cefnogol ac oed-gyfeillgar i fyw.

Mae Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych wedi ymrwymo i gyflawni’r camau gweithredu yn y cynllun hwn i wella bywydau pobl hŷn a chryfhau ein cymunedau.

Drwy gydweithio, helpodd aelodau’r rhwydwaith Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych i ddod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar.

Cynllun Gweithredu Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych 2024 i 2027

Gweld Cynllun Gweithredu Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych 2024 i 2027 yn llawn:

Cynllun Gweithredu Heneiddio'n Dda yn Sir Ddinbych 2024 i 2027 (PDF, 3.10MB)

Crynodeb o Gynllun Gweithredu Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar chwe thema (parth), a nodwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, i helpu pobl heneiddio’n dda.

Dewiswch un o’r parthau isod i weld crynodeb o’n camau gweithredu yn Sir Ddinbych:


Parth 1: Gofod y tu allan ac adeiladau

Mae gan Sir Ddinbych gefn gwlad, arfordir, trefi a phentrefi hardd sy’n cynnig llu o gyfleoedd i bobl fwynhau’r awyr agored, ymweld â lleoedd o ddiddordeb a pharhau’n actif wrth iddynt fynd yn hŷn. Rydym am i bawb allu mwynhau’r lleoedd hyn drwy wneud yn siŵr eu bod yn groesawgar, hygyrch ac oed-gyfeillgar.

Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau a chymunedau lleol i nodi a dileu rhwystrau a allai atal pobl rhag defnyddio a mwynhau mannau awyr agored, adeiladau a chyfleusterau Sir Ddinbych, gan helpu pobl o bob oed a chefndir gymryd rhan mewn bywyd cymunedol.

Yn ôl i’r rhestr parthau


Parth 2: Cludiant a symudedd

Sir wledig yw Sir Ddinbych yn bennaf. Er bod llawer o bobl yn byw ar hyd yr arfordir gogleddol, mae trefi, pentrefi a chymunedau gwledig wedi’u gwasgaru dros ardal fawr.  Gall hyn ei gwneud yn anoddach teithio o gwmpas y sir, yn enwedig i rai sy’n dibynnu ar gludiant cyhoeddus neu gymunedol.

Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau a chymunedau lleol i ddeall yr heriau sy’n wynebu pobl a gwella mynediad at gludiant diogel, dibynadwy a fforddiadwy, gan helpu pawb i gadw mewn cysylltiad â gwasanaethau, gweithgareddau a chyfleoedd.

Yn ôl i’r rhestr parthau


Parth 3: Tai

Mae cael tŷ diogel ac addas yn hanfodol i heneiddio’n dda.  Mae poblogaeth hŷn Sir Ddinbych yn  cynyddu, a bydd ar fwy o bobl angen tai sy’n bodloni eu hanghenion yn y dyfodol.  Ar yr un pryd, nid yw tai mor fforddiadwy, ac mae llai o gyfleoedd i brynu tai a mwy o ddibyniaeth ar rentu preifat.

Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau a chymunedau lleol i ddeall yr heriau mae pobl yn eu hwynebu o ran tai a helpu i ddileu rhwystrau fel bod pobl hŷn yn gallu cael llety diogel ac addas sy’n cefnogi eu hannibyniaeth a’u lles, a’u bod yn gallu aros ynddynt.

Yn ôl i’r rhestr parthau


Parth 4: Cyfranogiad cymdeithasol

Rydym yn falch o’r ystod eang o weithgareddau sydd ar gael ledled Sir Ddinbych, sy’n helpu pobl o bob oed aros yn actif, cadw mewn cysylltiad a chymryd rhan yn eu cymunedau. Mae’r rhain yn cynnwys grwpiau a gweithgareddau’n benodol i bobl hŷn, megis fforymau a gweithgareddau i bobl hŷn a gynhelir mewn cynlluniau tai â chymorth.

Byddwn yn parhau i weithio gyda grwpiau cymunedol, sefydliadau lleol a’r Bwrdd Iechyd i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo gweithgareddau a chyfleoedd ariannu lleol, annog pobl i gymryd rhan mewn mentrau lles a dathlu cyfraniad gwerthfawr pobl hŷn i’n cymunedau.

Yn ôl i’r rhestr parthau


Parth 5: Parch a chynhwysiant cymdeithasol

Rydym am i Sir Ddinbych fod yn sir oed-gyfeillgar ble mae pobl hŷn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys a’u bod yn gallu cymryd rhan ym mywyd y gymuned. Rydym wedi ymrwymo i greu cyfleoedd i bobl o bob oed gysylltu, cydweithio a dysgu gan y naill a’r llall, wrth hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at heneiddio a herio gwahaniaethu ar sail oedran.

Rydym eisiau cydweithio gyda sefydliadau a chymunedau i ddeall a mynd i'r afael â ffactorau sy'n arwain at unigrwydd a hyrwyddo cyfleoedd i bobl hŷn ymgysylltu â'u cymunedau.

Yn ôl i’r rhestr parthau


Parth 6: Ymgysylltiad dinesig a chyflogaeth

Rydym am i Sir Ddinbych fod yn sir sy'n gyfeillgar i oed, gan ddarparu dewisiadau o ansawdd da i bobl hŷn barhau i gyfrannu at eu cymunedau, yn cynnwys cyflogaeth â thâl neu waith gwirfoddol, yn ogystal â bod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau.

Rydym eisiau gweithio gyda sefydliadau a chymunedau i ddeall a goresgyn y rhwystrau sy’n atal pobl o bob cefndir rhag bod yn aelodau gweithredol o’r gymdeithas.

Yn ôl i’r rhestr parthau


Parth 7: Cyfathrebu a gwybodaeth

Mae trefi, pentrefi a chymunedau Sir Ddinbych wedi’u gwasgaru ar draws ardal eang.  Oherwydd hyn, mae’n bwysig bod pobl yn gallu cael gafael ar wybodaeth yn hawdd, cadw mewn cysylltiad ag eraill a chyfathrebu mewn ffyrdd sy’n gweithio iddyn nhw. Mae cyfathrebu da a mynediad at wybodaeth yn helpu pobl barhau’n annibynnol, cymryd rhan yn eu cymunedau a gallu heneiddio’n dda.

Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau a chymunedau lleol i nodi rhwystrau rhag cyfathrebu a rhannu gwybodaeth, ac yn cael gwared arnynt. Drwy wella mynediad at wybodaeth a chefnogaeth, gallwn helpu pobl gadw mewn cysylltiad, cymryd rhan mewn bywyd cymunedol a theimlo eu bod yn cael eu cynnwys, waeth beth fo’u hoedran a’u hamgylchiadau.

Yn ôl i’r rhestr parthau


Parth 8: Cefnogaeth gymunedol a gwasanaethau iechyd

Rydym eisiau i Sir Ddinbych fod yn sir sy’n gyfeillgar i oed, gan ddarparu dewisiadau o ansawdd da i bobl yn ddiweddarach mewn bywyd i barhau i gynnal eu hannibyniaeth a chyfrannu at eu cymunedau, gan gael mynediad at gefnogaeth gymunedol a gwasanaethau iechyd perthnasol.

Byddwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau lleol, cymunedau a gwasanaethau iechyd i hyrwyddo ffordd o fyw iach, actif a gwella mynediad at ofal iechyd. Drwy gefnogi pobl i aros yn iach a chael y cymorth y mae arnynt ei angen, gallwn helpu pobl o bob oed barhau’n actif ac annibynnol ac yn rhan o’u cymunedau.

Yn ôl i’r rhestr parthau

Mwy o wybodaeth

I ddysgu mwy am Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych, cysylltwch:

Logo Cymunedau Oed-Gyfeillgar Sir Ddinbych