Cyngor i Sipsiwn a Theithwyr

Nid oes unrhyw leiniau awdurdodedig ar gael i Sipsiwn a Theithwyr aros arnynt yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd.

Gwersylloedd ar dir y cyngor

Os ydych yn penderfynu sefydlu gwersyll ar dir y Cyngor, bydd aelod o’n staff yn ymweld â’r safle i siarad gyda chi. Gyda’n gilydd, byddwn yn llenwi ffurflen les ac yn canfod a oes gennych unrhyw anghenion o ran iechyd, lles neu addysg. Mae ein staff hefyd yma i’ch helpu i gael mynediad at gefnogaeth a gwasanaethau eraill yn Sir Ddinbych.

Ar ôl yr ymweliad, bydd y Cyngor yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru er mwyn dewis un o’r tri cham nesaf:

  • mae’n bosibl y byddwn yn cynnig safle arall i chi fel gwersyll
  • mae’n bosibl y byddwn yn caniatáu’r ymweliad ar y safle presennol am gyfnod penodol, cyn belled a bo rheolau penodol yn cael eu dilyn (bydd unrhyw gytundeb rhyngoch chi a’n tîm yn cael eu rhoi ar bapur)
  • mae’n bosibl y byddwn yn cymryd camau cyfreithiol i gymryd meddiant o’r safle

Gwersylloedd ar dir preifat neu dir trydydd parti

Pan sefydlir unrhyw wersyll yn Sir Ddinbych, rydym bob amser yn cynnal ymweliad lles (fel y byddem yn ei wneud pe baech ar dir sy’n perthyn i’r Cyngor). Os yw’r gwersyll ar dir preifat neu dir trydydd parti, perchennog y tir sy’n gyfrifol am gymryd unrhyw gamau gweithredu.

Gweler ein cyngor i berchnogion tir.

Camau cyfreithiol yn erbyn gwersylloedd diawdurdod

Bydd camau gweithredu’n fwyaf tebygol o arwain at Orchymyn Llys Sifil ar gyfer Meddiant, a fydd yn cael ei osod ar y safle, a bydd camau'n gweithredu'n dilyn. Os yw tirfeddianwyr preifat yn gweithredu o dan gyfraith gyffredin, gall troi allan ddigwydd yn sydyn iawn, a gall beilïaid ymddangos o fewn oriau.

Er bod tresmasu’n drosedd sifil, os yw ymddygiad grŵp yn mynd yn erbyn Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, neu os oes tystiolaeth o weithgarwch troseddol, gall yr Heddlu weithredu.

Tai

Gallwch gael gwybodaeth am dai yn Sir Ddinbych gan ein hadain dai.