Gwasanaethau llyfrgell ar gyfer y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Croeso i ystod eang o wasanaethau llyfrgell!

Gall aelodau ddefnyddio eu cerdyn llyfrgell yn unrhyw un o'r wyth llyfrgell gyhoeddus yn Sir Ddinbych ac i gael mynediad at ystod o wasanaethau ar-lein.

Mae ymuno â'r llyfrgell yn rhad ac am ddim a gallwch gofrestru yn unrhyw un o adeiladau'r llyfrgell. Fel arfer byddwn yn gofyn am brawf o bwy ydych chi sy'n dangos eich enw a'ch cyfeiriad, ond dylai ID gyda'ch enw yn unig fod yn ddigon.

Gwasanaethau mewn llyfrgelloedd

Unwaith y byddwch wedi ymuno byddwch yn gallu benthyca llyfrau am dair wythnos ar y tro, yna dewch â nhw yn ôl i unrhyw lyfrgell a dewis rhai newydd. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddirwyon os byddwch yn eu dychwelyd yn hwyr.

Gyda'ch cerdyn llyfrgell, gallwch ddefnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell i gael mynediad i'r rhyngrwyd ac argraffu dogfennau. Codir tâl bychan am unrhyw argraffu neu lungopïo a wnewch.

Os oes gennych chi fabi neu blentyn bach, mae gennym ni Amser Rhigymau Dechrau Da yn y rhan fwyaf o’n llyfrgelloedd, ac mae gennym ni lawer o lyfrau gwych ar gyfer plant oed ysgol.

Mae pob un o'n llyfrgelloedd, ac eithrio Rhuthun, yn Siopau Un Alwad y Cyngor, felly gallwch chi gael cymorth gyda gwasanaethau'r Cyngor.

Gwasanaethau ar-lein

Os na allwch ddod i mewn i’r llyfrgell, gallwch ddefnyddio’ch rhif aelodaeth ar-lein a PIN i gael mynediad at ystod o wasanaethau ar-lein 24/7 a lawrlwytho eLyfrau, llyfrau sain, papurau newydd a chylchgronau.

Mae hyn yn cynnwys apiau ffôn symudol a llechen fel:

  • Borrowbox i gael mynediad at filoedd o eLyfrau a llyfrau sain
  • Libby i ddarllen y rhifynnau diweddaraf o ystod eang o gylchgronau, p'un a ydych yn mwynhau chwaraeon, coginio, crefftau neu ffasiwn
  • PressReader i gael mynediad am ddim i bapurau newydd a chylchgronau o 120 o wledydd ledled y byd, 24/7
  • PORI i archebu llyfrau o'n catalog a rheoli eich cyfrif

Os ydych chi'n dysgu gyrru gallwch ymarfer eich prawf theori ar-lein gan ddefnyddio Theory Test Pro, sy'n rhad ac am ddim os ydych chi'n aelod o'r llyfrgell.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'n llyfrgelloedd!