Cynllun Peilot Adennill Dyledion a Chefnogi Pobl Ddiamddiffyn

Rydym yn rhan o Gynllun Peilot Adennill Dyledion a Chefnogi Pobl Ddiamddiffyn dan Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017.

Wrth weithio â Swyddfa'r Cabinet, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau, byddwn yn mynd at i ganfod cwsmeriaid sydd efallai’n ddiamddiffyn ac yn gwella ein dulliau o gasglu treth y cyngor gan bobl ag ôl-ddyledion heb eu talu.

Gallwn ofyn i Gyllid a Thollau ble’r ydych chi’n gweithio. Byddwn wedyn yn gofyn i’ch rheolwr dynnu arian yn syth o’ch cyflog i dalu’r ddyled. Er enghraifft, os ydych chi’n ennill £1,300 y mis, gallem gymryd £156 o’ch cyflog.

Dymunwn gefnogi ein preswylwyr ac rydym yn cydnabod y gall pethau fod yn anodd iddynt. Os ydych chi’n cysylltu â ni, bydd modd inni ymchwilio i’ch sefyllfa a chanfod pa ddewisiadau sydd ar gael ichi.

Protocol Treth y Cyngor

Yn 2019, mabwysiadodd Cyngor Sir Ddinbych ganllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch casglu Treth y Cyngor. Mae’r fframwaith hwn yn sicrhau bod y Cyngor yn casglu trethi’n deg, yn eglur ac yn effeithlon.

Mae’n helpu’r Cyngor i roi gwell cefnogaeth i breswylwyr mewn cyni ariannol a sicrhau fod pawb yn gwneud ei ran i ariannu gwasanaethau lleol. Nodau pennaf y Cyngor yw trin pobl yn deg, cael llai o daliadau wedi’u methu ac estyn cefnogaeth i bwy bynnag sydd ei hangen.

Ewch i LLYW.CYMRU i weld Protocol Llywodraeth Cymru ynghylch arferion da wrth gasglu Treth y Cyngor (gwefan allanol)