Cofrestru i bleidleisio

ID Pleidleisiwr

Mae’n rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos prawf adnabod â llun er mwyn pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Mae hyn yn berthnasol i’r canlynol:

  • Etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd
  • Is-etholiadau Seneddol y DU
  • Deisebau adalw
  • O fis Hydref 2023, bydd hyn hefyd yn berthnasol i Etholiadau Cyffredinol y DU.

I bleidleisio mewn etholiadau lleol, cenedlaethol ac Ewropeaidd, mae’n rhaid i’ch enw fod ar y gofrestr etholiadol. Mae hon yn rhestr o enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio. Os nad ydych chi ar y rhestr, ni chewch bleidleisio.

Ni fyddwch yn cael eich rhoi ar y rhestr hon yn awtomatig, hyd yn oed os ydych chi’n talu treth y cyngor, felly mae’n bwysig eich bod yn cofrestru.

Sut ydw i’n cofrestru?

Gallwch gofrestru i bleidleisio  yn gyflym ac yn rhwydd ar-lein.  Bydd arnoch chi angen nodi eich dyddiad geni a'ch rhif Yswiriant Gwladol (YG).  Os nad ydych chi'n gwybod eich rhif YG, cewch wybodaeth ar sut i'w gael yma (gwefan allanol).

Cofrestru i bleidleisio ar-lein (gwefan allanol)

Mae'n rhaid i bob aelod o'r teulu gofrestru yn unigol, a darparu eu rhif Yswiriant Gwladol a'u dyddiad geni fel tystiolaeth.

O'r blaen, byddai un person ym mhob cartref yn cofrestru'r holl breswylwyr cymwys yn defnyddio'r ffurflen ganfasio blynyddol.  Ond rŵan byddwch yn derbyn 'ffurflen ymholiad aelwyd' flynyddol, a bydd arnoch chi angen ychwanegu unrhyw un dros 16 oed sy'n byw yn eich cartref.  Bydd unrhywun heb gofrestru yn derbyn gwahoddiad drwy'r post i wneud hynny.

Unwaith byddwch chi wedi cofrestru does arnoch chi ddim angen ailgofrestru, oni bai'ch bod yn symud tŷ.  Fodd bynnag, fe ddylech chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen ymholiad aelwyd yn flynyddol.

Pwy sy’n gallu cofrestru?

Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych chi’n: 

  • yn 14 oed neu hŷn (ond ni allwch bleidleisio tan eich bod yn 16 yn etholiadau’r Senedd ac yn 18 mewn etholiadau eraill) AC
  • yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, y Gymanwlad. Dinesydd yr Undeb Ewropeaidd neu ddinesydd tramor sydd â chaniatâd i ddod mewn neu aros yn y DU, neu nad oes angen caniatâd arnoch.

Dan y ddeddfwriaeth bresennol, nid yw bod yn briod â dinesydd Prydeinig na bod â cherdyn preswyl parhaol i fyw yn y DU yn eich gwneud yn ddinesydd Prydeinig ac felly ni chewch bleidleisio yn etholiadau’r DU.

Hysbysiad Preifatrwydd

Gweld Nodyn Preifatrwydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol a’r Swyddog Canlyniadau