ID Pleidleisiwr

Ynglŷn ag ID Pleidleisiwr

Mae’n rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos prawf adnabod â llun er mwyn pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Mae hyn yn berthnasol i'r canlynol:

  • Etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd
  • Is-etholiadau Seneddol y DU
  • Deisebau adalw
  • O fis Hydref 2023, bydd hyn hefyd yn berthnasol i Etholiadau Cyffredinol y DU.

Os nad oes gennych brawf adnabod â llun derbyniol, mae modd i chi wneud cais am ddogfen ID Pleidleisiwr am ddim (gwefan allanol), a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.

Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos prawf adnabod â llun mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau’r Senedd nac etholiadau cynghorau lleol.

Mae rhagor o wybodaeth am ID Pleidleisiwr ar gael ar wefan Y Comisiwn Etholiadol (gwefan allanol).

Ffurfiau o Brawf Adnabod â llun a dderbynnir

Gallwch chi ddefnyddio unrhyw un o'r dulliau canlynol a dderbynnir o Brawf Adnabod â llun pan fyddwch chi’n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio:

Teithio rhyngwladol

  • Pasbort wedi’i gyflwyno gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwladwriaeth yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu un o wledydd y Gymanwlad (gan gynnwys Cerdyn Pasbort Gwyddelig)

Gyrru a Pharcio

  • Trwydded yrru wedi’i chyflwyno gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (gan gynnwys trwydded yrru dros dro)
  • Bathodyn Glas

Teithio Lleol

  • Cerdyn bws Unigolyn Hŷn a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Cerdyn bws Unigolyn Anabl a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Cerdyn Oyster 60+ a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Pàs Freedom
  • Cerdyn Hawl Cenedlaethol yr Alban
  • Cerdyn Teithio Rhatach i Bobl 60 Oed a Throsodd yng Nghymru
  • Cerdyn Teithio Rhatach i Bobl Anabl yng Nghymru
  • SmartPass i Bobl Hŷn a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass i bobl sydd wedi’u cofrestru’n ddall neu SmartPass i bobl ddall a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass Anabledd Rhyfel a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass 60+ a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass Hanner Pris a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon

Prawf o'ch oedran

  • Cerdyn adnabod sydd â hologram y Cynllun Safonau Prawf Oedran (cerdyn PASS)

Dogfennau eraill wedi’u cyflwyno gan y llywodraeth

Dim ond un math o brawf adnabod â llun fydd angen i chi ddangos. Mae angen i hwn fod yn fersiwn gwreiddiol ac nid llungopi.

Os nad oes gennych chi Brawf Adnabod â llun a dderbynnir

Gallwch chi wneud cais am ddogfen ID Pleidleisiwr yn rhad ac am ddim, y caiff ei alw’n Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, os:

  • nad oes gennych chi Brawf Adnabod â llun a dderbynnir
  • nad ydych chi’n siŵr a yw eich Prawf Adnabod â llun yn dal i edrych fel chi
  • ydych chi’n poeni am ddefnyddio dull adnabod sy'n bodoli am unrhyw reswm arall, fel marciwr rhywedd sydd wedi’i ddefnyddio

Bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio (gwefan allanol) cyn gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.

Dewch i wybod sut i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr (gwefan allanol).

Prawf Adnabod â llun sydd wedi dod i ben

Gallwch ddefnyddio’ch Prawf Adnabod â llun os yw wedi dod i ben, cyn belled â’i fod yn edrych fel chi.

Dylai’r enw ar eich Prawf Adnabod fod yr un enw y gwnaethoch chi ei ddefnyddio i bleidleisio.

Dangos Prawf Adnabod fel etholydd dienw

Os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio’n ddienw ac eisio pleidleisio’n bersonol, bydd angen i chi wneud cais am Ddogfen Etholydd Dienw (gwefan allanol).

Canfyddwch ragor am gofrestru i bleidleisio’n ddienw (gwefan allanol) a sut i bleidleisio’n ddienw (gwefan allanol).


Poster ID pleidleisiwr

Gwnewch gais am brawf adnabod â llun i bleidleisio (a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr) (gwefan GOV.UK).