Etholiadau Seneddol y Deyrnas Gyfunol (yr Etholiad Cyffredinol)

Cynhaliwyd etholiad cyffredinol ddydd Iau 4 Gorffennaf 2024.

Gweler y canlyniadau ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf 2024

Mae’n gyfle i bobl ledled y Deyrnas Gyfunol ddethol Aelod Seneddol (AS) i gynrychioli ardal benodol (a elwir yn etholaeth) yn Nhŷ’r Cyffredin am hyd at bum mlynedd.

Wedi i’r terfyn amser ar gyfer ymgeiswyr fynd heibio, cyhoeddir rhestr o’r ymgeiswyr sy’n sefyll ymhob un o’r etholaethau yn Sir Ddinbych ar wefan y Cyngor.

Yn Sir Ddinbych, cynhelir yr etholiad cyffredinol hwn ar sail ad-drefnu ffiniau pedair o etholaethau:

Mae’r etholaethau newydd hyn yn disodli’r hen rai, sef De Clwyd, Gorllewin Clwyd a Dyffryn Clwyd.

Ceir ychwaneg o wybodaeth a mapiau o’r etholaethau dan sylw ar wefan y Comisiwn Ffiniau (gwefan allanol).

Sut ydw i’n pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol?

I bleidleisio mewn etholiad cyffredinol, mae’n rhaid i chi fod:

  • wedi cofrestru i bleidleisio 
  • yn ddeunaw oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad (‘diwrnod pleidleisio’)
  • yn ddinesydd o Brydain, Iwerddon neu genedl gymwys yn y Gymanwlad
  • yn byw mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol neu’n byw dramor ac wedi cofrestru fel pleidleisiwr dramor
  • heb eich gwahardd yn gyfreithiol rhag pleidleisio

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru i bleidleisio, gwneud cais am bleidlais drwy’r post neu bleidlais drwy ddirprwy (yn cynnwys gwybodaeth am ID Pleidleiswyr) ar gael ar dudalen sut i bleidleisio.

Ynglŷn ag ID Pleidleisiwr

Mae’n rhaid i bleidleiswyr dangos prawf adnabod ȃ llun er mwyn pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen ID Pleidleisiwr.

Rheolau ymdrin â phleidleisiau post

  • Bydd eich pleidlais drwy’r post yn cael ei gwrthod os na chaiff ei dychwelyd yn y modd cywir.
  • Y ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus i chi ddychwelyd eich pleidlais drwy’r post yw trwy ei phostio yn un o flychau postio’r Post Brenhinol, gan ddefnyddio’r amlen barod a ddarperir (amlen B).
  • Cofiwch adael digon o amser i’ch pleidlais drwy’r post ein cyrraedd ni. Mae’n rhaid iddynt gyrraedd y Swyddog Canlyniadau Lleol cyn 10pm ar ddiwrnod y bleidlais.
  • Os ydych chi’n dychwelyd eich pleidlais bost â llaw, er enghraifft i orsaf bleidleisio neu’r cyfeiriad a ddarperir (ar amlen B), mae angen i chi lenwi ffurflen yn awr. Bydd ein staff yn eich helpu chi gyda hyn.
  • Gallwch ddychwelyd eich pleidlais bost eich hun a hyd at 5 o rai eraill fesul etholiad (cyfanswm o 6). 
  • Os ydych chi’n ymgyrchydd gwleidyddol, dim ond eich pleidlais bost eich hun y gallwch ei dychwelyd, a phleidleisiau post unrhyw berthnasau agos neu unigolyn rydych chi’n gofalu amdanynt yn rheolaidd. 
  • Pediwch â gadael eich pleidlais bost ym mlwch post unrhyw un o swyddfeydd y Cyngor.

Gwybodaeth i ddarpar ymgeiswyr

Mae arweiniad ac adnoddau helaeth i ymgeiswyr ac asiantwyr ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol:

Y Comisiwn Etholiadol: Canllawiau - ymgeisydd neu asiant (gwefan allanol)

Mae hyn yn cynnwys:

  • yr hyn sydd arnoch angen ei wybod cyn sefyll mewn etholiad
  • gwariant yr ymgeiswyr
  • ymgyrchu 
  • enwebiadau
  • pleidleisiau post
  • diwrnod pleidleisio
  • dilysu a chyfrif
  • ar ôl yr etholiad