Sut i bleidleisio

ID Pleidleisiwr

Mae’n rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos prawf adnabod â llun er mwyn pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Mae hyn yn berthnasol i’r canlynol:

  • Etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd
  • Is-etholiadau Seneddol y DU
  • Deisebau adalw
  • O fis Hydref 2023, bydd hyn hefyd yn berthnasol i Etholiadau Cyffredinol y DU.

Mae sawl ffordd y gallwch chi bleidleisio.

Pleidleisio yn yr Orsaf Bleidleisio

Os ydych chi wedi cofrestru, byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio oddeutu 1 mis cyn diwrnod yr etholiad.

Ar ddiwrnod yr etholiad, ewch i’r orsaf bleidleisio sydd wedi ei nodi ar eich cerdyn, rhwng 7am a 10pm. Bydd gofyn i chi gadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad, neu gallwch ddangos eich cerdyn pleidleisio. Does dim angen y cerdyn pleidleisio arnoch chi i fwrw’ch pleidlais, felly peidiwch â phoeni os ydych chi’n ei anghofio.

Byddwch yn derbyn papur pleidleisio a bydd yn rhaid i chi roi ‘X’ yn y blwch wrth ymyl yr ymgeisydd yr hoffech chi bleidleisio drosto. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur neu mae’n bosib na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.

Pleidleisio drwy ddirprwy

Mae pleidleisio drwy ddirprwy yn golygu y gallwch benodi rhywun y gallwch ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan yn yr orsaf bleidleisio. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn os ydych chi’n sâl neu’n methu cyrraedd yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, neu os fyddwch chi dramor ar ddiwrnod yr etholiad. Gall fod yn hynod ddefnyddiol os ydych chi mewn gwlad lle na allwch anfon eich pleidlais drwy’r post mewn pryd (er enghraifft, os ydych chi’n aelod o’r Lluoedd Arfog ac wedi eich lleoli tramor).

I bleidleisio drwy ddirprwy, mae’n rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais Pleidleisio drwy ddirprwy ar wefan y Comisiwn Etholiadol (gwefan allanol). Argraffwch, cwblhewch a llofnodwch y ffurflen a’i dychwelyd i:

Y swyddfa gofrestru etholiadol
Cyngor Sir Ddinbych
Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1YN

Mae’n rhaid i chi lofnodi’r ffurflen oherwydd bod ar y swyddfa gofrestru angen copi o’ch llofnod er dibenion diogelwch pleidleisio.

Pleidleisio drwy’r post

Mae anfon pleidlais drwy’r post yn ffordd hawdd o bleidleisio os nad ydych chi’n gallu cyrraedd yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.

Bydd y papur bleidleisio yn cael ei anfon atoch chi wythnos cyn yr etholiad. Pan rydych chi’n derbyn eich papur pleidleisio, rhowch farc yn y blwch perthnasol a’i anfon yn ôl fel ei fod yn cyrraedd cyn i’r etholiad ddod i ben (sef 10pm ar ddiwrnod yr etholiad). Os yw eich pleidlais yn cyrraedd yn hwyrach, ni fydd yn cael ei chyfrif.

Canllaw cyflym i bleidleisio drwy'r post (PDF, 363KB)

Gellir anfon eich papur bleidleisio i’ch cyfeiriad cartref neu unrhyw gyfeiriad arall. Gellir ei anfon dramor, ond fe ddylech wneud yn siŵr y bydd gennych chi ddigon o amser i’w dderbyn a’i ddychwelyd cyn cau’r etholiad.

I bleidleisio drwy’r post, mae’n rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais Pleidleisio drwy'r post ar wefan y Comisiwn Etholiadol (gwefan allanol). Argraffwch, cwblhewch a llofnodwch y ffurflen a’i dychwelyd i:

Y swyddfa gofrestru etholiadol
Cyngor Sir Ddinbych
Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1YN

Mae’n rhaid i chi lofnodi’r ffurflen oherwydd bod ar y swyddfa gofrestru angen copi o’ch llofnod er dibenion diogelwch pleidleisio.