Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol o fis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026

Mynd yn syth i:

  1. Tai o ansawdd yn Sir Ddinbych sy'n bodloni anghenion pobl
  2. Sir Ddinbych ffyniannus
  3. Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalus
  4. Sir Ddinbych sy'n dysgu a thyfu
  5. Sir Ddinbych mwy gwyrdd
  6. Cyngor sy'n cael ei gynnal yn dda ac sy'n uchel ei berfformiad

1. Tai o ansawdd yn Sir Ddinbych sy'n bodloni anghenion pobl

Rydyn ni'n falch o...

  • 84% o denantiaid y cyngor yn fodlon â gwasanaeth Tai Sir Ddinbych.
  • Rhoi bywyd newydd i 261 o adeiladau preifat gwag.
  • 106 o gartrefi wedi’u haddasu gyda'r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl.

A wyddoch chi?

Mae 1,082 o gartrefi preifat wedi'u cefnogi â chynlluniau ynni ECO ers 2023.

Rydyn ni'n dal i weithio ar yr heriau hyn...

  • Galw cynyddol am dai a heriau i gynnig y cartrefi cywir ar gyfer anghenion preswylwyr.
  • Atal digartrefedd a chefnogi pobl i gael cartrefi sefydlog.

Tai o ansawdd yn Sir Ddinbych sy'n bodloni anghenion pobl.

Yn ôl i'r brig


2. Sir Ddinbych ffyniannus

Rydyn ni'n falch o...

  • Cyflawni prosiectau'n llwyddiannus dan Gronfa Adfywio Lleol Llywodraeth y DU.
  • Cwblhau prosiectau mawr yn y Rhyl, gan gynnwys Marchnad y Frenhines a Sinema'r Strand.
  • Mabwysiadu Strategaeth Economaidd newydd a'i roi ar waith.

A wyddoch chi?

Gwnaeth Sir Ddinbych yn Gweithio gefnogi 498 o bobl i gael gwaith, hyfforddiant neu addysg.

Rydyn ni'n dal i weithio ar yr heriau hyn...

  • Lleihau tlodi sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn yn rhai o'n cymunedau.
  • Poblogaeth sy'n heneiddio syn lleihau demograffig y rhai sydd o oed gweithio.

Sir Ddinbych ffyniannus

Yn ôl i'r brig


3. Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalus

Rydyn ni'n falch o...

  • Llyfrgelloedd gorau yng Nghymru o ran Sialens Ddarllen yr Haf gan gyrraedd 13% o blant 4–11 oed – dwbl y cyfartaledd cenedlaethol!
  • Dros 90% yn dweud bod gofal cymdeithasol i oedolion a gawsant wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iddynt.
  • Helpu dros 1,000 o ofalwyr â chyngor a chefnogaeth.

A wyddoch chi?

Mae Sir Ddinbych yn Gymuned sy'n Gyfeillgar i Oed wedi'i chydnabod gan y WHO.

Rydyn ni'n dal i weithio ar yr heriau hyn...

  • Cefnogi mwy o bobl sydd ag anghenion cymhleth.
  • Recriwtio gweithwyr cymdeithasol profiadol.

Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalus

Yn ôl i'r brig


4. Sir Ddinbych sy'n dysgu a thyfu

Rydyn ni'n falch o...

  • Cyflawni gwerth dros £700,000 o welliannau i ysgolion bro.
  • 769 o blant yn manteisio ar Gynnig Gofal Plant Cymru.
  • 82% o ddysgwyr yn dweud eu bod yn teimlo'n hapus yn yr ysgol.

A wyddoch chi?

Mae gan Sir Ddinbych bellach 49 o leoliadau gofal plant Dechrau'n Deg.

Rydyn ni'n dal i weithio ar yr heriau hyn...

  • Gwella presenoldeb mewn ysgolion.
  • Pontio’r bwlch addysg i ddysgwyr sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim.

Sir Ddinbych sy'n dysgu a thyfu

Yn ôl i'r brig


5. Sir Ddinbych mwy gwyrdd

Rydyn ni'n falch o...

  • Amddiffyn dros 2,500+ o gartrefi a busnesau trwy brosiectau amddiffyn yr arfordir.
  • 47% o dir y Cyngor bellach yn gyfoeth o rywogaethau, sy’n cefnogi bioamrywiaeth.
  • Creu dros 4km o lwybrau Teithio Llesol newydd.

A wyddoch chi?

Rydyn ni wedi plannu dros 4,000 o goed ar draws 8 safle, yn cynnwys mewn ysgolion ac ar gyn-safle tirlenwi.

Rydyn ni'n dal i weithio ar yr heriau hyn...

  • Dod yn gyngor di-garbon net a chyngor ecolegol gadarnhaol erbyn 2030.
  • Gwella cyfraddau ailgylchu.

Sir Ddinbych mwy gwyrdd

Yn ôl i'r brig


6. Cyngor sy'n cael ei gynnal yn dda ac sy'n uchel ei berfformiad

Rydyn ni'n falch o...

  • Cefnogi cynhwysiant fel y pedwerydd Cyngor yng Nghymru i gyrraedd statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd Lefel 3.
  • 76% o staff a holwyd yn dweud eu bod yn falch o weithio i'r Cyngor.
  • 79% o breswylwyr a holwyd yn argymell Sir Ddinbych fel lle i fyw.

A wyddoch chi?

Gwelwyd tudalennau blog newyddion y Cyngor, Llais y Sir, dros 870,000 o weithiau yn ei flwyddyn gyntaf.

Rydyn ni'n dal i weithio ar yr heriau hyn...

  • Gwarchod adnoddau prin wrth i’r galw barhau i gynyddu.
  • Cynyddu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y Cyngor.

Cyngor sy'n cael ei gynnal yn dda ac sy'n uchel ei berfformiad

Yn ôl i'r brig