Cynllun strategol y gymraeg mewn addysg

Rydym yn gwbl ymrwymedig i weledigaeth Llywodeaeth Cymru i gyflawni 'Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050'.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd dwyieithrwydd yn 21ain ganrif.  Rydym wedi ymrwymo i uchelgais hirdymor y bydd yr holl blant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych yn gadael addysg lawn-amser yn hyfedr ac yn hyderus yn y Gymraeg a'r Saesneg.  Rydym yn cydnabod y bydd yn cymryd nifer o flynyddoedd i gyrraedd y nod hwn.

Mae'r Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg ar gyfer 2022-32 yn nodi sut y byddwn yn gweithio tuag at gyrraedd y nod hwn.

Cynllun strategol y gymraeg mewn addysg 2022 - 2032 (PDF, 876KB)