Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymroddedig i gynnal portffolio eiddo effeithlon a chynaliadwy, gan sicrhau bod lles cymunedau’n cael ei wella drwy gyfranogiad, partneriaethau a chydweithio. Mae’r canlyniadau hyn yn rhan o ymroddiad CSDd i foderneiddio’r Cyngor a’r addewid i gyflawni arbedion effeithlonrwydd i wella gwasanaethau ar gyfer ein cwsmeriaid a chyd-fynd ag egwyddor graidd ein Strategaeth Rheoli Asedau 2024 i 2029:
"Byddwn yn darparu’r asedau cywir, yn y lle cywir, ac yn y cyflwr cywir i fodloni anghenion darparu gwasanaeth cyfredol ac yn y dyfodol, gan ystyried pwy sydd orau i fod yn berchen a gweithredu pob ased a chyfleoedd ar gyfer cydweithio."
Nod y polisi hwn yw amlygu proses ffurfiol o Drosglwyddo Asedau Cymunedol, i greu dull tryloyw, cyson a chynaliadwy o weithredu parthed y penderfyniadau hyn.
Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol (PDF, 1MB)