Rhagarweiniad
Ein man cychwyn
Annog ffyniant yn Sir Ddinbych yw ein strategaeth twf uchelgeisiol a chyffrous newydd i gefnogi datblygiad economaidd y sir i’r dyfodol. Mae’n deillio o broses fanwl a thryloyw o ymgysylltu’n helaeth â budd-ddeiliaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector. Bydd cynnal y bartneriaeth hon wrth ddechrau canolbwyntio ar weithredu’r strategaeth yn hanfodol; bydd yn ymofyn ymdrech ar y cyd gan bartneriaid o fewn a thu allan i’r sir i gyflawni’r uchelgeisiau yr ydym yn eu rhannu. Yn ogystal â goruchwylio darpariaeth, mae gwaith partneriaeth yn hanfodol ar gyfer olrhain cynnydd a dathlu ein llwyddiannau drwy fonitro a gwerthuso cadarn.
Mae Annog ffyniant yn Sir Ddinbych yn cyflwyno ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer creu Sir Ddinbych ac economi leol fwy ffyniannus sy’n wydn, cystadleuol, medrus a mentrus, ac yn enwog am ei lleoliadau a’i phrofiadau unigryw. Lluniwyd y strategaeth i edrych tuag allan a gwneud y mwyaf o gyfleoedd newydd ar draws gogledd Cymru a thu hwnt.
Summary of economic performance
Sir wledig yw Sir Ddinbych yn bennaf, gydag oddeutu 97,000 o breswylwyr. Mae gan yr economi leol oddeutu 3,500 o fusnesau, sy’n cynhyrchu oddeutu £2 filiwn o allbwn economaidd bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae ein heconomi wedi tanberfformio o ran Gwerth Gros Ychwanegol (GVA, sy’n fesurydd allweddol o berfformiad cyffredinol yr economi) a chyflogaeth o’i gymharu â chyfartaledd Cymru a’r DU dros y degawdau diwethaf.
Mae’r sir hefyd yn wynebu bwlch cyson a sylweddol mewn cynhyrchiant. Roedd cynhyrchiant (a fesurir drwy Werth Ychwanegol Gros (GVA) fesul swydd) yn £44,900 yn 2022, sy’n gyfwerth ag oddeutu 73% o gyfartaledd y DU. Yn fwy pryderus, dim ond gostyngiad bychan sydd wedi bod yn y bwlch hwn dros y 15 mlynedd diwethaf. Dyma’r her fwyaf sy’n wynebu economi Sir Ddinbych ar hyn o bryd ac mae’n faes ffocws clir ar gyfer y strategaeth newydd.
Mae Sir Ddinbych hefyd yn wynebu heriau’n gysylltiedig â:
- gostyngiad cyffredinol yn y boblogaeth oedran gweithio a chyfraddau is o weithgarwch economaidd, yn ogystal â chyflenwad cyfyngedig o sgiliau lefel uwch
- twf cymharol isel mewn niferoedd busnes o’i gymharu â chyfartaledd Cymru a’r DU
- cyfyngiadau isadeiledd o ran cysylltedd cludiant rhwng y gogledd a’r de a band eang gwibgyswllt
- pocedi o amddifadedd parhaus, yn arbennig yn y Rhyl.
Mae’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud tuag at gyflawni’r targed di-garbon net yn galonogol, fodd bynnag, mae rhagor o waith i’w wneud ar y rhaglen allweddol hon.
Cyfleoedd ar gyfer y Strategaeth
Mae gan Sir Ddinbych amgylchedd naturiol eithriadol yn ogystal â threftadaeth a diwylliant Cymreig cyfoethog, sy’n cyfrannu at ein cynnig unigryw a’n heconomi ymwelwyr pwysig. Er mwyn cynnal hyn, mae’n rhaid i’r bartneriaeth:
- ymateb i ddirywiad canol trefi
- bod yn ymwybodol o oblygiadau ardoll ymwelwyr arfaethedig Llywodraeth Cymru a’r posibilrwydd o sefydlu parc cenedlaethol newydd ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Y clwstwr opteg a ffotoneg ym Mharc Busnes Llanelwy, gyda Chanolfan Dechnoleg OpTIC Prifysgol Wrecsam fel canolbwynt, yw ein hased economi gwybodaeth allweddol. Fodd bynnag, mae angen rhagor o fuddsoddiad mewn safleoedd o ansawdd uchel yn ogystal â chefnogaeth arloesedd i gefnogi cam nesaf y clwstwr o ran twf a chreu rhagor o swyddi sy’n gofyn am swyddi sgiliau uwch i’n preswylwyr.
Mae cyfleoedd cyffrous hefyd i wella proffil allanol Sir Ddinbych ac ymestyn ein gwaith partneriaeth ehangach er mwyn helpu i ddenu busnesau a swyddi mewn sectorau gwerth uwch. Mae hyn yn gysylltiedig â Bargen Dwf Gogledd Cymru, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, a dros y ffin i ogledd orllewin Lloegr.