Fforwm Tacsis Sir Ddinbych

Ydych chi'n ddefnyddiwr neu'n wweithredwr tacsis yn Sir Ddinbych? Cofrestrwch i'n Fforwm Tacsis newydd.

Beth ydym yn ei wneud?

Rydym yn sefydlu Fforwm Tacsis yn Sir Ddinbych.

Bydd y Fforwm yn gyfarfod neu'n weithdy a gynhelir unwaith y flwyddyn, cyn i'r Cyngor adolygu eu dabl o dariffau ar gyfer cerbydau hacni (tacsis).

Pam ydym ni'n gwneud hyn?

Ar 10 Medi 2025, gofynnodd Pwllgor Trwyddedu Cyngor Sir Ddinbych fod swyddogion yn y tîm trwyddedu yn  sefydlu 'gweithgor' i ddeall sut y gallai newidiadau i brisiau tacsi effeithio ar fusnesau tacsis a'u cwsmeriaid.

Rydym yn rhagweld y bydd y Fforwm yn cynnwys yr aelodaeth ganlynol:

  1. Tîm trwyddedu Cyngor Sir Ddinbych
  2. Cynghorwyr Sir Ddinbych
  3. Gweithredwyr neu berchnogion Cerbydau Hacni
  4. Gweithredwyr neu berchnogion Cerbydau Hurio Preifat
  5. Defnyddwyr tacsis

Beth ydym ni eisiau ei wybod?

Yn y cyfarfod cyntaf rydym yn bwriadu sefydlu:

  1. Cylch gorchwyl ar gyfer y Fforwm, gan gynnwys:
    • Aelodaeth
    • Amlder cyfarfodydd
    • Pŵer i wneud argymhellion i'r Cyngor
  2. Sut mae costau byw wedi cael effaith ar fasnach busnesau tacsis
  3. Sut mae costau byw wedi effeithio ar ddewisiadau cwsmeriaid
  4. Sut gall y Cyngor ddod o hyd i gydbwysedd rhwng cefnogi busnesau tacsis i wneud elw, a chynrychioli gwerth da i ddefnyddwyr tacsis
  5. Sut y gallwn wella Fforymau ac ymgynghoriadau ar brisiau cerbydau hacni yn y dyfodol

Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?

Yn ystod yr ymgynghoriad adolygu prisiau diwethaf yn 2025, cawsom nifer o ymatebion gan y busnes nad  oedd y cynnydd arfaethedig i brisiau yn ddigon.

Ar y llaw arall, yn ystod yr ymgynghoriad adolygu prisiau blaenorol yn 2023, cawsom ymatebion gan y busnes bod y cynnydd arfaethedig i brisiau yn ormod, ac roedd perchnogion tacsis yn poeni y gallai'r cynydd arwain at drigolion yn stopio tacsis yn gyfan gwbl.


Drwy sefydlu Fforwm a chaniatáu i weithredwyr tacsis a defnyddwyr tacsis ddod ynghyd a rhannu eu profiadau a'u pryderon gyda ni, rydym yn gobeithio y gallwn greu tabl o ffioedd bob blwyddyn sy'n gweithio (cymaint â phosibl) i bawb.

Sut ellwch chi gymryd rhan?

Cymerwch ran yn ein harolwg

Cwblhewch ein holiadur.

Mae gennym holiaduron ar wahân ar gyfer:

  1. Perchnogion cerbydau Hacni
  2. Gweithredwyr cerbydau hurio preifat
  3. Defnyddwyr tacsis

Bydd yr holiadur yn gofyn cwestiynau ynghylch y themâu canlynol:

  • Pa fathau o deithiau ydych chi'n eu gwneud fwyaf?
  • Sut mae costau byw wedi cael effaith arnoch chi?
  • Sut ydych chi'n meddwl y dylai'r Cyngor geisio dod o hyd i gydbwysedd rhwng anghenion gyrwyr tacsis i ennill incwm teg, ac anghenion cwsmeriaid i gael gwerth da am eu harian?

Ar ddiwedd yr holiadur, bydd gennych yr opsiwn i gofrestru i gymryd rhan yn y Fforwm. Mae hyn yn ddewisol, gallwch gwblhau'r holiadur ar ben ei hun os dymunwch.

Bydd cyfranogwyr y Fforwm yn cael eu dewis ar hap o blith ymatebwyr yr arolwg sydd wedi wedi dewis cymryd rhan, gan sicrhau bod cymaint o'r sir a chynifer o anghenion demograffig â phosibl yn cael eu cynnwys.

Rydym yn rhagweld y bydd y Fforwm yn digwydd ym mis Mawrth 2026 a byddwn yn cysylltu â chi yn nes at yr amser i roi rhagor o fanylion. Gall Fforymau yn y dyfodol ddigwydd yn gynharach yn y flwyddyn i gyd-fynd ag amserlen cyfarfodydd y Pwyllgor Trwyddedu.

Holiadur ar gyfer perchnogion cerbyd Hacni (gwefan allanol)

Holiadur ar gyfer gweithredwyr cerbydau hurio prefiat (gwefan allanol)

Holiadur ar gyfer defnyddwyr tacsis (gwefan allanol)

Gellir casglu a dychwelyd copïau papur o'r arolgyon o unrhyw un o Lyfrgelloedd Cyngor Sir Ddinbych

Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw: Dydd Sul 29 Mawrth 2026.

Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?

Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn derbyn crynodeb o ganlyniadau'r arolwg, a chrynodeb o nodiadau cyfarfod y Fforwm ar ôl iddo ddigwydd.

Os byddwch yn dewis cymryd rhan, gallwn hefyd gysylltu â chi pan fydd adolygiad blynyddol prisiau Cerbydau Hacni yn cael ei gyflwyno am ymgynghoriad.

Adborth

Dewch yn ôl ar gyfer canlyniadau