Priodasau crefyddol

Os ydych chi am briodi yn yr Eglwys yng Nghymru neu Eglwys Loegr, bydd angen i chi siarad â ficer yr eglwys yr ydych chi’n dymuno priodi ynddi.

Yn wahanol i briodasau sifil, fe gynhelir priodasau crefyddol fel rheol yn yr ardal lle mae un ohonoch chi’n byw. Mewn rhai achosion gallwch briodi mewn eglwys y tu allan i’r lle bydd un ohonoch chi’n byw, cyn belled â bod un ohonoch chi’n addoli mewn adeilad arall neu does yna’r un adeilad o’ch enwad crefyddol chi yn eich ardal.

Fe fydd yna berson awdurdodedig i ysgrifennu’r gofrestr fel arfer, ond os na fydd yna mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Swyddfa Gofrestru leol i drefnu i gofrestrydd fod yn bresennol. Bydd cael cofrestrydd yn bresennol mewn priodas grefyddol yn costio £86.00.

Seremonïau:

  • Ar gyfer seremonïau Swyddfa Gofrestru, dim ond eich 2 dyst fydd yn gallu bod yn bresennol, heb unrhyw westeion eraill.
  • Gall seremonïau a gynhelir mewn ystafell drwyddedig Sir Ddinbych fynd ymlaen gyda niferoedd cyfyngedig, cysylltwch â ni i gadarnhau nifer y gwesteion a ganiateir. 
  • Sylwch y gallai ein holl gyngor newid heb rybudd.

Gall unrhyw un sydd eisoes wedi archebu lle gysylltu â gwasanaeth cofrestru Sir Ddinbych drwy e-bostio: ceremonies@denbighshire.gov.uk