Priodasau a Phartneriaethau Sifil: Rhoi hysbysiad

Os ydych chi am briodi neu ffurfio partneriaeth sifil yng Nghymru neu Loegr, mae’n rhaid i chi’ch dau/dwy roi hysbysiad yn y Swyddfa Gofrestru lle’r ydych chi wedi byw am wyth diwrnod cyn rhoi hysbysiad, pa un ai a ydych chi’n bwriadu priodi ai peidio.

Mae angen i Gofrestrydd Arolygol a Chofrestrydd, neu berson awdurdodedig, fod yn bresennol ym mhob priodas/partneriaeth sifil, oni bai am y rheiny mewn eglwys sy’n rhan o’r Eglwys yng Nghymru neu Eglwys Loegr. Mae’n bwysig eich bod yn sicrhau bod y Cofrestryddion ar gael cyn i chi wneud unrhyw drefniadau eraill. 

Ym mhle i roi hysbysiad

Os rydych chi’n byw yn Sir Ddinbych, bydd angen i chi gysylltu ag un o’r Swyddfeydd Cofrestru.

Cysylltu ag Swyddfa Gofrestru y Rhyl neu Swyddfa Gofrestru Rhuthun

Ynglŷn â’r hysbysiad o briodas

Mae’r hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil yn ddatganiad cyfreithiol y mae’n rhaid i chi ei arwyddo. Os byddwch chi’n bwriadu priodi yn yr Eglwys yng Nghymru neu Eglwys Loegr, dylech weld eich ficer lleol ac fe wnaiff o drefnu i gyhoeddi’r Gostegion Priodas.

Bydd hysbysiad yn datgan enw, oed, statws priodasol, cyfeiriad, galwedigaeth a chenedligrwydd y bobl sy’n bwriadu priodi neu ffurfio partneriaeth sifil. Bydd yn datgan hefyd y lleoliad a fwriedir ar gyfer y seremoni.

Fe arddangosir hysbysiadau ar hysbysfyrddau cyhoeddus y Swyddfa Gofrestru am 28 diwrnod ac ar ôl hynny gellir rhoi’r ‘awdurdodau ar gyfer priodi’ neu ‘atodiad partneriaeth sifil’. Gallwch gasglu’r rhain o’r swyddfa gofrestru a’u hanfon at bwy bynnag sy’n gweinyddu cyn y seremoni neu gellir eu hanfon ar eich rhan. Ni all eich priodas ddigwydd heb yr awdurdodau ar gyfer priodas neu atodiad partneriaeth sifil.

Bydd hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil yn ddilys am 12 mis ond dim ond ar gyfer y lleoliad a nodir arno, ac os byddwch yn newid eich meddwl, mae’n rhaid rhoi hysbysiad newydd a thalu amdano. 

Faint mae hysbysiad yn ei gostio?

Mae hysbysiad yn costio £35, a byddech yn talu i’r Cofrestrydd Arolygol ar adeg rhoi’r hysbysiad. 

Tystiolaeth

Bydd angen i chi ddarparu prawf o’ch enw, oed, cyfeiriad a chenedligrwydd. Gallwch ddod â dogfennau gwreiddiol fel:

  • Pasbort cyfredol 
  • Tystysgrif geni 
  • Os ydych wedi eich geni ar ôl Ionawr 1af 1983 bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o genedligrwydd eich rhieni. 
  • Trwydded yrru gyfredol 
  • Biliau gwasanaeth (yn ddyddiedig o fewn y 3 mis diwethaf) 
  • Cyfriflenni banc (yn ddyddiedig o fewn y mis diwethaf)

Os buoch yn briod yn flaenorol neu mewn partneriaeth sifil, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth fod y briodas/bartneriaeth sifil wedi dod i ben e.e. yr Archddyfarniad Absoliwt o Ysgariad/Diddymiad Partneriaeth Sifil neu dystysgrif marwolaeth y gŵr/wraig/partner sifil ymadawedig.

Nid yw llungopïau na chopïau ffacs o’r uchod yn dderbyniol. Gallwch gysylltu â ni os hoffech fwy o wybodaeth ar roi hysbysiad.