Safleoedd Cymeradwy i Seremonïau Priodas a Phartneriaeth Sifil  

Gellir cynnal Seremonïau Priodas a Phartneriaeth Sifil yn y Swyddfeydd Cofrestru neu yn unrhyw un o’r safleoedd sydd wedi eu cymeradwyo ar gyfer Priodasau/Partneriaethau Sifil. 

Trwydded eiddo priodas sifil

Mae angen trwydded arnoch os ydych am gynnal seremonïau priodas sifil neu bartneriaeth sifil yn eich eiddo.

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi nodi ystafell neu ystafelloedd penodol lle bydd y priodasau neu bartneriaethau sifil yn digwydd. Rhaid i hyn fod yn rhan o'r adeilad - nid yn yr awyr agored neu dan babell fawr.

Ni all eich lleoliad fod ag unrhyw gysylltiadau crefyddol cyfredol neu ddiweddar (e.e. ni fedrwch gael trwydded ar gyfer capel mewn plasty).

Rhaid i'r eiddo fod yn lleoliad addas ac urddasol ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil. Byddwn yn ystyried hyn pan fyddwn yn asesu eich cais.

Sut ydw i'n gwneud cais am y drwydded hon?

I wneud cais am drwydded i gynnal seremonïau priodasau sifil a phartneriaeth sifil, lawrlwythwch a llennwch y ffurflen gais a'i dychwelyd i'r cyfeiriad ar y ffurflen.

Ffurflen gais am drwydded mangre priodasau sifil (MS Word, 1.03MB)

Os hoffech drafod eich cais, ffoniwch ni ar 01824 706196

Faint mae'n ei gostio?

Mae trwydded newydd yn costio £1,490. Mae trwyddedau’n ddilys am 3 blynedd, ac mae'n costio £1,330 i’w adnewyddu.

Mae ychwanegu ystafell arall at drwydded gyfredol yn costio £210.

Codir ffi weinyddol o £45 i addasu Caniatâd sy’n bod eisoes. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i enw’r Lleoliad a gymeradwywyd neu newid enw’r Unigolyn Cyfrifol.

Ceisiadau cyfredol

Rydym yn cyhoeddi manylion y ceisiadau i ddod yn safle cymeradwy ar gyfer priodasau sifil a a seremonïau partneriaeth sifil sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd.

Gwelwch ein hymgynghoriadau presennol