Seremonïau enwi

Seremoni enwi yw digwyddiad anghrefyddol pan roddir enw i faban. Mae rhieni yn dewis cynnal y dathliad hwn fel act gyhoeddus o gariad ac ymroddiad i’w plentyn ac mae’n achlysur delfrydol i gyflwyno plant o unrhyw oedran i’r teulu. 

Beth sy’n digwydd yn ystod y seremoni?

Bydd Gweinydd proffesiynol, wedi ei hyfforddi’n llawn, yn cynnal y seremoni; gall gynnwys addunedau a darlleniadau, eglurhad o enw’r plentyn, gobaith ar gyfer ei ddyfodol, addunedau gan oedolion ychwanegol a neiniau/teidiau ac addunedau’r rhieni i’w gilydd. Ar ddiwedd y seremoni, rhoddir cofnod ichi gadw wedi ei lofnodi gan y rheini, oedolion ychwanegol a’r Gweinydd. 

Ble ellir eu cynnal?

Gellir cynnal seremonïau enwi yn swyddfa gofrestru y Rhyl neu Rhuthun, neu mewn unrhyw leoliadau eraill sydd wedi eu cymeradwyo ar gyfer seremonïau sifil

Sut alla i drefnu seremoni enwi?

Bydd angen ichi gysylltu â ni i drefnu seremoni enwi.

Faint fydd y gost?

Isod mae manylion o faint yw cost seremonïau enwi mewn gwahanol leoliadau, Mae'r ffioedd yn cynnwys TAW:

Swyddfa Gofrestru y Rhyl

  • Dydd Mercher a Dydd Iau: £185

Ystafell Glan y Môr (y Rhyl) a Ystafell Menlli (Rhuthun)

  • Dydd Llun i dydd Iau (ac eithrio Gŵyl y Banc): £350
  • Dydd Gwener (ac eithrio Gŵyl y Banc) ac dydd Sadwrn: £365
  • Dydd Sul a Gŵyl Banc: £425

Lleoliad cymeradwy arall

  • Dydd Llun i dydd Iau (ac eithrio Gŵyl y Banc): £350
  • Dydd Gwener (ac eithrio Gŵyl y Banc) ac dydd Sadwrn: £365
  • Dydd Sul a Gŵyl Banc: £425

Mwy am dalu am seremoni.