Seremonïau ymrwymo

Mae seremonïau ymrwymo ar gael i barau sydd ddim am briodi’n gyfreithlon ond sy’n dymuno gwneud ymrwymiad cyhoeddus y naill i’r llall. 

Ym mhle gellir eu cynnal?

Gellir cynnal seremonïau ymrwymo yn swyddfa gofrestru’r Rhyl neu Ruthun neu mewn Safle Cymeradwy

Sut allaf i drefnu seremoni ymrwymo?

Bydd angen i chi gysylltu â ni i drefnu seremoni. 

Faint mae o’n ei gostio?

Cost bwcio seremoni ymrwymo ydi £50.00 a gallwch dalu mewn arian parod yn y Swyddfa Gofrestru, gyda siec wedi ei gwneud yn daladwy i Gyngor Sir Ddinbych neu ar y ffôn gyda cherdyn debyd/credyd. Ni ellir ad-dalu’r ffi bwcio. Isod mae manylion cost seremonïau mewn gwahanol safleoedd – nid yw’r symiau hyn yn cynnwys hurio safleoedd cymeradwy.

Mae'r ffioedd yn cynnwys TAW

Swyddfa Gofrestru y Rhyl

  • Dydd Mercher a Dydd Iau: £185

Ystafell Glan y Môr (y Rhyl) a Ystafell Menlli (Rhuthun)

  • Dydd Llun i dydd Iau (ac eithrio Gŵyl y Banc): £350
  • Dydd Gwener (ac eithrio Gŵyl y Banc) ac dydd Sadwrn: £365
  • Dydd Sul a Gŵyl Banc: £425

Lleoliad cymeradwy arall

  • Dydd Llun i dydd Iau (ac eithrio Gŵyl y Banc): £350
  • Dydd Gwener (ac eithrio Gŵyl y Banc) ac dydd Sadwrn: £365
  • Dydd Sul a Gŵyl Banc: £425

Mwy am dalu am seremoni.