Diwrnod Tedis Nantclwyd y Dre
Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn gweithgareddau a gemau gyda’ch tedi mwyaf anturus, ar safle hyfryd tŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre.
Gwnewch rwff Tuduraidd i’ch tedi, gyrrwch eich tedi i lawr y wifren wib, gwthiwch eich tedi ar y siglen a mwynhewch lwyth o gyfleoedd am lun mewn bath adar, potiau blodau, ac yn y gerddi hardd yn Nantclwyd y Dre.
Pryd: Dydd Sadwrn 18 Gorffennaf 2026
Amser: 10:30am tan 4:30pm (mynediad olaf am 3.30pm)

Pwy all fynychu’r digwyddiad hwn?
Nid oes cyfyngiadau oedran i fynychu’r digwyddiad hwn ond rydym yn disgwyl iddo fod yn arbennig o boblogaidd gyda theuluoedd â phlant ac ymwelwyr iau.
Sut i gymryd rhan
Nid oes angen cadw lle ar gyfer y digwyddiad, dim ond dod draw yn ystod y dydd a thalu’r ffi fynediad gyffredinol (plant dan 5 am ddim).
Mae croeso i chi ddod â phicnic rhag ofn y byddwch chi, neu eich tedi, eisiau bwyd.
Dod o hyd i ni
Sut i gyrraedd Nantclwyd y Dre a gwybodaeth am barcio.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Bydd gweithgareddau’r Diwrnod Tedis yn cael eu cynnal yn y gerddi sy’n hygyrch i’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn (mae modd cael mynediad trwy’r lôn ochr er mwyn osgoi’r grisiau ger y fynedfa flaen). Mae llawr gwaelod y tŷ yn hygyrch hefyd.
Sylwch fod angen defnyddio grisiau i gael mynediad at lawr uchaf y tŷ. Cysylltwch â’r tîm cyn ymweld â ni os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd penodol.
Mwy o wybodaeth am hygyrchedd yn Nantclwyd y Dre.
Cyfryngau cymdeithasol