Hiring the Parlour at Nantclwyd y Dre
Mae’r trawstiau agored, y paneli pren, y soffas cyfforddus a’r portreadau teuluol, yn rhoi naws mawreddog a chysurus i’r Parlwr.
Mae’r Parlwr yn Nantclwyd y Dre yn lle hyblyg sydd â gwahanol ddewisiadau o ran cynllun yr ystafell i ddarparu ar gyfer pob math o weithgareddau.

Nodweddion
Mae gan y Parlwr:
- le i hyd at 60 o bobl
- taflunydd a sgrin ar gael
- lluniaeth ar gael
- toiledau/toiledau hygyrch
Arlwyo
Yn anffodus, ni allwn ddarparu gwasanaeth arlwyo, ond mae’n bosibl defnyddio’r gegin a’r oergell.
Prisiau
Mae gennym ni leoedd ar gael o £10 yr awr yn dibynnu ar ofynion a gallwn ni hefyd gynnig rhai lleoedd am ddim ar sail cyfraniad ar adegau penodol.
Sut i archebu
Os hoffech chi archebu, trafod eich gofynion, neu drefnu ymweliad i weld a oes gennym le a fyddai’n addas i chi, cysylltwch â ni.
Cyfryngau cymdeithasol