Catrefi gofal yn eich ardal

Mae cartrefi gofal yn darparu llety cyfforddus gyda staff wedi eu hyfforddi wrth law i ofalu am eich anghenion ddydd a nos pan na fyddwch bellach yn gallu gwneud hynny gartref gyda chymorth gan ffrindiau, teulu neu rwydweithiau eraill.

Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (gwefan allanol) yn darparu adnodd defnyddiol o wybodaeth ar gartrefi gofal. Gallwch chwilio am gartrefi gofal yn ôl eich anghenion, er enghraifft, yn ôl lleoliad neu a oes angen gofal nyrsio arnoch. Bydd disgwyl i chi gyfrannu at gost eich gofal.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu gyngor, gallwch ymweld â Phwynt Siarad neu gysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl.