Talu am ofal cartref preswyl a nyrsio

Weithiau nid yw bellach yn bosibl parhau i fyw’n ddiogel yn eich cartref eich hun, ac mae eich cynllun gofal a chymorth yn nodi mai dim ond mewn lleoliad preswyl neu ofal nyrsio y gall eich anghenion gael eu diwallu. Efallai y bydd disgwyl i chi gyfrannu at gost eich gofal yn y sefyllfaoedd hyn.

Fel rhan o'n sgwrs gyda chi, byddwn yn edrych ar eich adnoddau personol, gan gynnwys cyllid, eich teulu, rhwydweithiau cymdeithasol a gwasanaethau/gweithgareddau hygyrch sydd ar gael yn eich cymuned cyn ystyried os yw eich anghenion yn gymwys i dderbyn gofal a chymorth a reolir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Os hoffech chi Wybodaeth, Cyngor a Chymorth am y gwasanaethau sydd ar gael i chi, i’ch galluogi i gyflawni eich lles eich hun a helpu i atal eich anghenion rhag cynyddu, cysylltwch â Thîm Pwynt Mynediad Sengl Sir Ddinbych, neu galwch draw i un o'n Pwyntiau Siarad

Faint fydd yn rhaid i mi ei dalu?

Er mwyn gweithio allan faint y gallwch dalu, byddwn yn cynnal asesiad ariannol. Bydd y swm y gofynnwn i chi ei gyfrannu yn dibynnu ar y cyfalaf, asedau, incwm a chynilion sydd gennych, a hefyd y mathau o fudd-daliadau a gewch. Gallai hyn gynnwys gwerth eich cartref.

Ni fyddwn yn cyfrif gwerth eich cartref os yw’r canlynol yn parhau i fyw yno  

  • eich gŵr, gwraig neu bartner 
  • perthynas 60 oed neu hŷn 
  • perthynas dan 60 oed sy'n cael lwfansau anabledd penodol 
  • riant sengl gyda phlentyn dibynnol sy'n berson wedi ymddieithrio neu bartner wedi ysgaru yn dal i fyw yno
  • plentyn o dan 18 oed yr ydych yn gyfrifol yn ariannol amdano yn parhau i fyw yno

Fodd bynnag, os nad oes unrhyw amgylchiadau arbennig, mae’n rhaid i ni ystyried gwerth eich tŷ wrth benderfynu faint y dylech dalu am eich gofal mewn cartref preswyl neu nyrsio.

Efallai bydd yr asesydd ariannol angen gweld tystiolaeth o'ch incwm a'ch cynilion, felly byddwch yn barod gyda’r wybodaeth yma, er enghraifft, eich llyfrau cyfrifon, llyfrau budd-dal, cyfriflenni banc a thystysgrifau cyfranddaliadau. Gallwch gael perthynas, ffrind neu gynrychiolydd arall gyda chi yn ystod yr asesiad.

Byddwn yn ysgrifennu atoch ar ôl yr asesiad i ddweud wrthych faint y gofynnir i chi ei dalu. Byddwn yn eich ail-asesu bob blwyddyn i ail-gyfrifo'r swm. Os bydd eich amgylchiadau'n newid cyn diwedd y flwyddyn, efallai y byddwn yn gofyn am ailasesiad. 

Os gwelwn fod gennych ddiogon o incwm, cynilion neu asedau i dalu cost lawn eich gofal, gofynnir i chi dalu am eich hun a chewch eich galw’n 'hunan-gyllidwr'.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ddod o hyd i gartref gofal addas i chi ar My Care My Home (gwefan allanol).

Os ydych am wybod mwy am berfformiad cartrefi gofal lleol ewch i gael golwg ar Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (gwefan allanol).

Sut ydw i'n talu?

Byddwch yn talu eich taliadau yn uniongyrchol i'r cartref. Gall gweinyddwr y cartref neu eich asesydd ariannol eich helpu gyda hyn.

Os ydych yn berchen ar eich cartref ac yn symud yn barhaol i gartref preswyl / gofal nyrsio gallai fod yn bosibl i chi ystyried cynllun taliadau gohiriedig.

Dogfennau cysylltiedig