Diogelu oedolion

Mae pob oedolyn â’r hawl i gael ei drin ag urddas, i’w ddewisiadau gael eu parchu ac i fyw bywyd sy’n rhydd o ofn. Rydym i gyd yn gyfrifol am ddiogelwch aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas.

Fidio Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru (gwefan allanol)

Oedolion mewn perygl

Oedolyn mewn perygl yw oedolyn sydd:

  • yn profi, neu mewn perygl o brofi, camdriniaeth neu esgeulustod
  • ag anghenion gofal a chefnogaeth (p’run ai yw’r awdurdod lleol yn cwrdd â rhai o’r anghenion hynny neu beidio), ac o ganlyniad i’r anghenion hynny, nid yw’n gallu amddiffyn ei hun rhag y gamdriniaeth neu'r esgeulustod, neu’r perygl ohono.

Os ydych yn gweld sefyllfa sy’n peri pryder, neu'n gwybod am sefyllfa, peidiwch â'i hanwybyddu.

Beth allwch chi ei wneud

Os ydych yn oedolyn mewn perygl, neu eich bod yn bryderus am oedolyn a all fod mewn perygl, dywedwch wrthym amdano.

Mae anabledd, salwch neu wendid yn golygu bod llawer o oedolion yn gorfod dibynnu ar bobl eraill i’w helpu yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Y ffaith eu bod yn gorfod dibynnu ar bobl eraill sy’n eu gwneud yn ddiamddiffyn ac yn eu rhoi mewn perygl, oherwydd y bobl maen nhw'n eu hadnabod, er enghraifft perthynas, ffrind, cymydog neu ofalwr cyflogedig. Gall camdriniaeth ddigwydd yng nghartref y person, mewn cartref preswyl, mewn canolfan ddydd neu mewn ysbyty.

Lle bo'n bosibl, dylech gael caniatâd yr oedolyn sydd mewn perygl cyn rhannu eich pryderon. Fodd bynnag, ni fydd yn bosibl bob amser.

Adrodd amheuaeth o gam-drin oedolion

Dywedwch wrthym os ydych yn credu bod oedolyn mewn perygl.

Ffoniwch ni ar 0300 4561000 yn ystod yr amseroedd isod:

  • Dydd Llun: 8:15am i 5:45pm
  • Dydd Mawrth: 8:15am i 5:45pm
  • Dydd Mercher: 8:15am i 2pm and 3pm to 5:45pm
  • Dydd Iau: 8:15am i 5:45pm
  • Dydd Gwener: 8:15am i 5:45pm
  • Dydd Sadwrn: 10am i 4pm
  • Dydd Sul: 10am i 4pm
  • Gwyliau Banc (ac eithrio Dydd Nadolig a Sul y Pasg): 10am i 4pm

Os oes angen i chi siarad â gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd mewn argyfwng tu allan i'r oriau hyn, gallwch ffonio 0345 053 3116 (mae galwadau i’r rhif hwn yn costio 2 geiniog y funud a thâl defnyddio eich cwmni ffôn).

Cysylltwch â’r tîm Un Pwynt Mynediad ar-lein

Os ydych yn credu bod oedolyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr Heddlu ar 999.

Cael eich trin yn wael neu gamdriniaeth

Cam-drin yw unrhyw weithred sy'n niweidio rhywun arall, a gall fod yn:

  • cam-drin corfforol (e.e. hitio, slapio, gwthio, atal yn gorfforol) 
  • cam-drin emosiynol (e.e. bwlio, gwawdio, bygwth neu fychanu rhywun) 
  • cam-drin geiriol (e.e. gweiddi neu regi) 
  • cam-drin ariannol (e.e. arian neu eiddo’n cael eu cymryd dan bwysau neu heb ganiatâd) 
  • cam-drin rhywiol (e.e. cyffwrdd, cusanu neu gyfathrach rywiol ddigroeso) 
  • esgeulustod (e.e. gofal gwael, camreoli meddyginiaeth, gwrthod preifatrwydd, dewis neu gysylltiad cymdeithasol) 
  • gwahaniaethu (e.e. dioddef camdriniaeth neu esgeulustod ar sail crefydd, diwylliant, cenedl, rhywioldeb neu anabledd)
  • caethwasiaeth fodern (e.e. cael eich gorfodi i weithio'n ddi-dâl, cael eich rheoli gan gyflogwr)