Cefnogaeth ariannol a chyngor i ofalwyr 

Mae yna gefnogaeth ariannol ar gael i bobl sy’n darparu gofal i eraill, yn ogystal â chymorth i barhau i weithio tra’n darparu gofal. 

Cyngor i ofalwyr sy’n gweithio

Mae rhai gofalwyr yn gweld bod yn rhaid iddynt roi’r gorau i weithio neu leihau eu horiau gwaith er mwyn rheoli’r gofal maent yn dymuno ei gynnig i aelod o’r teulu neu ffrind. 

Gadewch i’ch cyflogwr wybod eich bod yn ofalwr a gweld os gallwch drafod sut gallant eich helpu i addasu i weithio a gofalu.   Dylech ystyried:

  • Eich hawliau yn y gwaith - mae’r gyfraith yn rhoi hawliau statudol penodol i bawb, fel;
    • Yr hawl i ofyn i gael gweithio’n hyblyg
    • Yr hawl i gael amser i ffwrdd mewn argyfwng
    • Diogelu rhag gwahaniaethu
    • Yr hawl i absenoldeb rhiant ar gyfer plentyn o dan 18 oed.
  • Mae gennych hefyd hawliau cytundebol sy’n benodol i’ch swydd

Costau cysylltiedig ag anabledd

Os ydych chi’n gofalu am rywun gydag anabledd neu gyflwr meddygol, mae’n bosibl y gallwch chi hawlio costau sy’n gysylltiedig ag anabledd.

Canfod mwy am gostau cysylltiedig ag anabledd (gwefan allanol)

Buddion i ofalwyr

Mae yna fuddion ar gael i ofalwyr a’r bobl maent yn gofalu amdanynt.  

Lwfans Gweini

Mae Lwfans Gweini yn helpu gyda chostau ychwanegol os oes gan rywun anabledd digon difrifol maent angen rhywun i helpu i ofalu amdanynt. 

Canfod mwy am Lwfans Presenoldeb (gwefan allanol)

Lwfans Gofalwyr

Mae’n bosibl y gallwch hawlio Lwfans Gofalwr os ydych yn gofalu am rhywun am o leiaf 35 awr yr wythnos a’u bod yn derbyn budd-daliadau penodol.

Canfod mwy am Lwfans Gofalwyr (gwefan allanol)

Credyd Gofalwyr

Gallech gael Credyd Gofalwyr os ydych yn gofalu am rywun am o leiaf 20 awr yr wythnos.

Canfod mwy am Gredyd Gofalwyr (gwefan allanol)

Credyd Pensiwn

Mae Credyd Pensiwn yn darparu arian ychwanegol i helpu gyda chostau byw i bobl dros oed Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel.  Mae Credyd Pensiwn hefyd yn gallu helpu gyda chostau tai fel rhent tir neu ffioedd gwasanaeth.

Canfod mwy am Gredyd Pensiwn (gwefan allanol)

Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)

Mae Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) yn gallu helpu gyda chostau byw ychwanegol os oes gan rywun:

  • gyflwr neu anabledd corfforol neu iechyd meddwl hirdymor
  • anhawster yn gwneud tasgau bob dydd neu’n symud o gwmpas oherwydd eich cyflwr

Canfod mwy am Daliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) (gwefan allanol)

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal wedi ei gynllunio i gefnogi pobl sydd ar incwm isel neu yn ddi-waith.

Canfod mwy am Gredyd Cynhwysol

Bod yn benodai ar gyfer rhywun sy’n hawlio budd-daliadau

Gallwch ymgeisio am yr hawl i ddelio gyda budd-daliadau rhywun sy’n methu rheoli eu materion eu hunain oherwydd eu bod yn analluog yn feddyliol neu ag anabledd difrifol.

Cael mwy o wybodaeth ar fod yn benodai i rywun sy’n hawlio budd-daliadau (gwefan allanol)

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y budd-daliadau ar gael i ofalwyr gan: