Gweithwyr gofal asiantaeth cartref

Mae yna nifer o sefydliadau sy’n cyflogi gweithwyr gofal profiadol gyda chymhwyster addas sy’n gallu darparu cefnogaeth i ofalwr ac unigolyn sy’n derbyn gofal, eu helpu i ymdopi gyda’u sefyllfaoedd unigol a pharhau’n annibynnol gartref.

Sut i drefnu'r gwasanaeth hwn

Gall asiantaethau cartref gael eu trefnu’n breifat, mae costau ac argaeledd yn amrywio, neu gellir cael mynediad drwy’r Gwasanaethau Cymdeithasol os cytunir ei fod yn ddeilliant priodol drwy sgwrs ac asesiad ‘Beth sy’n Bwysig’.

Cysylltwch â’r Un Pwynt Mynediad neu i wneud ymholiadau pellach.

Gallwch gysylltu â Un Pwynt Mynediad drwy:

  • Ffonio 0300 4561000 rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 10am a 4pm ar benwythnosau a Gwyliau Banc (ac eithrio Dydd Nadolig a Sul y Pasg). Os oes angen i chi siarad â gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd mewn argyfwng tu allan i'r oriau hyn, gallwch ffonio 0345 053 3116 (mae galwadau i’r rhif hwn yn costio 2 geiniog y funud a thâl defnyddio eich cwmni ffôn)
  • Cysylltu â Un Pwynt Mynediad ar-lein