Newidiadau i ofal a chymorth yng Nghymru

Mae’r hyn sy’n bwysig i chi yn bwysig i ni yma yn Ninbych.  Rydym eisiau eich helpu i fyw eich bywyd yn ôl eich dewis a pharhau i fod yn annibynnol am fwy o amser.

Ym mis Ebrill 2016, daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (gwefan allanol) i rym gan ddisodli sawl cyfraith flaenorol. Mae'n newid sut y mae cynghorau a gwasanaethau gofal yn gweithio. Mae'n awr yn rhoi cyfrifoldeb ar y cyd i chi, ac  Adran Gwasanaethau Cymdeithasol eich Awdurdod Lleol i ddarparu'r canlyniadau sy'n bwysig i chi.

Mae'r dull o asesu a chymhwyso yn newid, rydym yn dechrau gyda chi. 

Beth mae hyn yn ei olygu?

Gall unrhyw un sy’n credu fod ganddynt anghenion gofal a chefnogaeth gysylltu â'u Hawdurdod Lleol. Mae hyn waeth beth fo lefel yr angen neu adnoddau ariannol. Bydd Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn cael ei ddarparu. Bydd mwy o wasanaethau ataliol yn cael eu cynnig i'ch cefnogi i gyflawni eich lles eich hun a chynorthwyo i osgoi cynyddu eich anghenion. 

Sut fyddwn ni’n gwneud hyn?

Fel rhan o waith cynllunio eich gofal a chefnogaeth, byddwn yn cynnal sgwrs gyda chi i ganfod beth sy'n bwysicaf i chi yn awr ac yn y dyfodol i'ch cadw yn iach a diogel. 

Yn hytrach na gofyn 'Beth sy’n bod arnoch chi?' byddwn yn gofyn 'Beth sy'n bwysig i chi?' er mwyn canfod beth yn union sy’n bwysig i chi. Rydym eisiau cynnal y sgwrs gywir â chi er mwyn gallu dod o hyd i’r ateb cywir gyda chi.

Gallai ein sgwrs gyntaf â chi fod wyneb yn wyneb, dros y ffôn, yn ddigidol neu drwy’r post.  Os mai dros y ffôn y cynhelir y sgwrs, byddwch yn siarad â rhywun yn yr Un Pwynt Mynediad. Byddai sgwrs wyneb yn wyneb yn cael ei chynnal mewn Pwynt Siarad.  Os cawn ni gyswllt yn ddigidol neu drwy’r post, bydd gweithiwr o’r Un Pwynt Mynediad yn cysylltu â chi.

Byddwn yn canolbwyntio ar eich lles ac ansawdd eich bywyd.  Byddwn yn trafod y canlynol gyda chi:

  • Eich amgylchiadau personol
  • Eich canlyniadau personol
  • Y rhwystrau i gyflawni'r canlyniadau hynny
  • Y peryglon i gyflawni eich canlyniadau personol
  • Eich cryfderau a’ch gallu personol 

O dan y Ddeddf newydd, gall yr Awdurdod Lleol ddiwallu'r angen os nad oes modd ei ddiwallu mewn dull arall. Mae pedwar amod y mae'n rhaid i chi eu diwallu er mwyn bod yn gymwys. Mae'r rhain ar gael yn y daflen ynghlwm.

Ar gyfer mwyafrif yr unigolion sy'n cysylltu â'r awdurdod lleol oherwydd bod pryderon ynglŷn â'u lles, fel arfer gall ystod o opsiynau yn y gymuned, gwasanaethau ail-alluogi, offer neu gefnogaeth byr dymor ddiwallu eu hanghenion ac atal yr angen ar gyfer Cynllun Gofal a Chefnogi hirdymor. 

Beth yw ail-alluogi a chefnogaeth byr dymor?

Ail-alluogi yw’r hyn fyddwn ni’n ei alw’n gymorth byr dymor, wedi ei ddylunio i roi’r hyder i chi reoli cymaint o dasgau ag sydd bosib ar eich pen eich hun, yn hytrach na bod pobl eraill yn eu gwneud ar eich rhan. Mae gennym hefyd Weithwyr Cefnogi medrus allai eich helpu yn y tymor byr gydag amrywiol agweddau ar eich bywyd. Efallai mai dim ond angen rhyw fath o Gyfarpar neu Addasiad i'r Tŷ ydych chi, er mwyn eich helpu i symud o amgylch eich tŷ a pharhau i wneud tasgau personol yn annibynnol heb gymorth ychwanegol.

Cefnogi eich annibyniaeth

Mae gan bawb yng Nghymru hawl i les ac mae ganddynt gyfrifoldeb am eu lles eu hunain. Mae'n bwysig fod gennych chi lais, eich bod mewn rheolaeth ac yn gwneud penderfyniadau am eich bywyd. O dan y Ddeddf newydd, mae'n rhaid i bawb geisio hyrwyddo lles y rhai sydd angen gofal a chefnogaeth. 

Mae ar rai pobl angen cymorth i gyflawni hyn, er enghraifft pobl sydd:

  • yn fregus,
  • yn hŷn,
  • yn ofalwyr,
  • ag anabledd dysgu neu gorfforol,
  • â phroblem iechyd meddwl, neu
  • â chyflwr arall fel Awtistiaeth neu wedi cael anaf i’r ymennydd.

Gofal a chymorth a reolir

Mewn amgylchiadau lle mae arnoch chi angen gofal a chymorth yn y tymor hir, byddwn yn trafod yr opsiynau gyda chi a’ch Prif Asesydd.

Unwaith y bydd Cynllun Gofal a Chefnogaeth wedi'i gytuno, gellir archwilio Cyllideb Gymorth i'ch cynorthwyo i gyflawni'r canlyniadau a nodwyd yn eich cynllun gofal a chefnogaeth.

Bydd y defnydd o Gyllideb Gymorth yn cael ei ystyried ar gyfer unigolion y gellir diwallu eu canlyniadau gofal cymdeithasol gan ddefnyddio cyllid yr awdurdod lleol yn unig.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu gyngor, gallwch ymweld â Phwynt Siarad neu gysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl.