Cyflwyniad i’r Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol

Mae’r Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol yn dîm arbenigol sy’n cefnogi teuluoedd sy’n profi ymddygiad sy’n herio yn y cartref.

Beth all y Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol ei wneud i helpu?

Rydym yn cefnogi teuluoedd a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw drwy:

  • Gynghori a chyfeirio: mae’r Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol yn helpu teuluoedd i ganfod y gefnogaeth gywir. Os na allwn helpu’n uniongyrchol, rydym yn darparu cyngor ac yn cyfeirio pobl at wasanaethau eraill. 
  • Gweithio ar y cyd â theuluoedd: mae’r Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol yn canolbwyntio ar ddatblygu’r gweithlu. Mae’r Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol a’r gweithiwr allweddol yn gweithio gyda’i gilydd i helpu teuluoedd i ddeall ymddygiad a defnyddio strategaethau ymarferol gartref.
  • Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol fel gweithiwr allweddol: gall y Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol weithredu fel gweithiwr allweddol ar gyfer asesu, fformiwleiddio ac ymyrryd. Mae teuluoedd yn derbyn cefnogaeth uniongyrchol i ddeall ymddygiad a rheoli pryderon yn y cartref, heb fai na beirniadaeth. Mae tystiolaeth yn dangos bod newid ymddygiad yn gofyn am newid amgylcheddol a/neu ofalwr.

Helpu lleihau ymddygiad sy’n herio

Mae’r fideo ‘Helpu lleihau ymddygiad sy’n herio’ yn edrych ar y rhesymau sylfaenol dros ymddygiad heriol ymysg plant trwy lens yn seiliedig ar berthnasau. Mae’n cwmpasu:

  • achosion cyffredin ymddygiad
  • sut mae sgiliau megis cynllunio a chanolbwyntio (gweithrediad goruchwyliol) yn chwarae rhan
  • pam mai perthynas cryf a charedig yw’r ffordd orau o helpu
  • sut mae aros yn chwilfrydig a chysylltiedig yn arwain at newid gwirioneddol

Gwyliwch y fideo ‘Helpu lleihau ymddygiad sy’n herio’ ar YouTube (gwefan allanol)

Sut i feithrin gwydnwch rhag straen i rieni

Mae’r fideo ‘Sut i feithrin gwydnwch rhag straen i rieni’ yn archwilio sut mae straen parhaus yn effeithio ar eich corff, eich ymennydd a’r ffordd rydych yn magu plant. Mae'n egluro:

  • sut mae’r gylchred straen yn gweithio a’r arwyddion o deimlo wedi llethu
  • effaith straen hirdymor ar eich lles a pherthnasau
  • ffyrdd sydyn i reoli straen yn y fan a’r lle
  • sut i feithrin gwydnwch a phwysigrwydd hunanofal
  • sut i ddeall eich anghenion eich hun gyda mwy o gydymdeimlad

Gwyliwch y fideo ‘Sut i feithrin gwydnwch rhag straen i rieni’ ar YouTube (gwefan allanol)

Ymwybyddiaeth Synhwyraidd

Mae ein fideo ymwybyddiaeth synhwyraidd yn dangos sut mae synhwyrau plentyn yn effeithio ar y ffordd maent yn ymddwyn a theimlo. Mae'n egluro:

  • sut mae’r holl synhwyrau (gan gynnwys symudiad ac ymwybyddiaeth o’r corff) yn effeithio ar blentyn
  • pam fod ymddygiad sy’n herio yn aml yn anhawster synhwyraidd
  • ffyrdd ymarferol o gefnogi plant pan maent yn teimlo wedi’u llethu
  • sut i fod yn ‘dditectif ymddygiad’ i ddeall beth mae plentyn yn ei gyfathrebu

Gwyliwch y fideo ‘Ymwybyddiaeth Synhwyraidd’ ar YouTube (gwefan allanol)

Pwy all y Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol ei helpu?

Gall y Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol weithio gyda theuluoedd a’r gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi os yw’r plentyn neu’r unigolyn ifanc:

  • dan 18 mlwydd oed
  • yn byw yng Nghonwy neu Sir Ddinbych
  • yn dangos ymddygiad anodd gartref, fel:
    • ymddygiad corfforol ymosodol
    • ymddygiad llafar ymosodol
    • dinistrio eiddo
    • ymddygiad hunan-niweidio
    • ymddygiad sy’n tarfu ar eraill
  • yn achosi straen difrifol i berthnasoedd y teulu a bywyd dyddiol yn y cartref.

Pryd na all y Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol ymwneud â’r sefyllfa

Ni allwn ddarparu cefnogaeth os yw’r plentyn neu’r unigolyn ifanc:

  • yn dangos ymddygiad anodd yn yr ysgol neu yn y gymuned yn unig, ac nid yn y cartref
  • yn dangos ymddygiad sy’n gysylltiedig ag anableddau dysgu
  • yn dangos oedi difrifol mewn dau faes datblygiad neu fwy, fel siarad, meddwl neu symud
  • yn dangos ymddygiad lle mai’r eglurhad gorau ohono yw cyflwr iechyd meddwl, fel gorbryder, iselder, anhwylder obsesiynol-gorfodaethol, neu drawma
  • eisoes yn derbyn cymorth gan dîm arbenigol arall, fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, Gwasanaethau Niwroddatblygiadol, neu dimau cefnogaeth lleol.

Sut i gael cymorth gan y Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol

I gael cymorth gan y Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol, mae’n rhaid i weithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda theulu gysylltu â ni i gynllunio’r ffordd orau ymlaen.

Canfod mwy ynglŷn â sut i gael cymorth gan y Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol.


Mae’r Tîm Integredig Teuluoedd Lleol yn dîm aml-asiantaeth, a ariennir gan Gydweithfa Gwella Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru.

Logo Cydweithredfa Gwella Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru Logo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Logo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Logo Cyngor Sir Ddinbych