Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol: Gweithdy Cefnogi i Leihau Ymddygiad sy’n Herio

Mae’r Gweithdy Cefnogi i Leihau Ymddygiad sy’n Herio’n helpu rhieni a gofalwyr i ddysgu a defnyddio strategaethau sy’n helpu i atal ymddygiad heriol cyn iddo ddigwydd.

Beth i’w ddisgwyl:

  • bydd aelodau o’n tîm yn eich croesawu wrth ichi gyrraedd a byddant yn hapus i helpu os nad ydych chi’n siŵr ble i fynd
  • mae lle tawel ar gael os bydd arnoch angen seibiant draw o’r grŵp
  • awyrgylch braf, groesawgar a dim beirniadu
  • dysgu strategaethau ymarferol y gallwch eu defnyddio gartref
  • cyfleoedd i ofyn cwestiynau gydol y sesiwn
  • cyfle i gwrdd â rhieni a gofalwyr eraill
  • darperir te, coffi a lluniaeth ond dewch â’ch cinio eich hun

Dyma sylwadau gan rai o’r rhieni a gymerodd ran mewn gweithdai blaenorol:

  • "Erbyn y diwedd roeddwn i’n teimlo’n llai unig a bod pobl yn fy neall i.”

  • "Roedd y strategaethau’n ymarferol, realistig a hawdd eu defnyddio gartref.”

  • "Roedd yr hwyluswyr yn glên, yn hawdd siarad â nhw ac fe wnaethon helpu pawb i ymlacio.”

  • "Dwi’n difaru peidio â chymryd rhan yn gynt – roedd yn help mawr imi ddeall fy mhlentyn yn well.”

Ar gyfer pwy mae’r gweithdy?

Mae’r gweithdy ar gyfer pawb sy’n byw yng Nghonwy neu Sir Ddinbych sy’n gofalu am blant rhwng 0 a 18 oed, a’r nod yw cefnogi rhieni a gofalwyr sy’n wynebu amryw fathau o ymddygiad heriol.

Pryd a lle cynhelir y gweithdai?

Mae’r Gwasanaeth yn cynnal y gweithdy bob hanner tymor gydol y flwyddyn mewn amryw fannau ledled Sir Ddinbych a Chonwy.

Dewiswch ardal i gael gwybod pryd a ble cynhelir y gweithdy:

Eirianfa (Sir Ddinbych)

Gwybodaeth am y gweithdy

Cynhelir y gweithdy:

  • Lle: Eirianfa
  • Dyddiad: Dydd Gwener 25 Medi 2026
  • Amser: 9:30am tan 2:30pm

Gwybodaeth am y lleoliad

Bydd aelod o’r tîm yn cwrdd â chi wrth y brif fynedfa.

Cyfeiriad

Y cyfeiriad yw:

Eirianfa
Maes y Ffatri
Dinbych
Sir Ddinbych
LL16 3TS

Parcio

Does dim lle i barcio o flaen yr adeilad, mae mannau parcio i bobl anabl yn y cefn, ac ni chaniateir parcio o flaen yr allanfa dân.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae popeth ar y llawr gwaelod.

Canolfan Fordd Douglas (Conwy)

Gwybodaeth am y gweithdy

Cynhelir y gweithdy:

  • Lle: Canolfan Fordd Douglas
  • Dyddiad: Dydd Mercher 18 Tachwedd 2026
  • Amser: 9:30am tan 2:30pm

Gwybodaeth am y lleoliad

Bydd aelod o’r tîm yn cwrdd â chi wrth y brif fynedfa.

Cyfeiriad

Y cyfeiriad yw:

Canolfan Fordd Douglas
Ffordd Douglas
Bae Colwyn
Conwy
LL29 7PE

Parcio

Mae lleoedd i barcio’n brin; mae gan y Cyngor faes parcio gyferbyn â Chanolfan Ffordd Douglas.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae popeth ar y llawr gwaelod.

Neuadd Tref Llangollen (Sir Ddinbych)

Gwybodaeth am y gweithdy

Cynhelir y gweithdy:

  • Lle: Neuadd Tref Llangollen
  • Dyddiad: Dydd Mawrth 19 Ionawr 2027
  • Amser: 9:30am tan 2:30pm

Gwybodaeth am y lleoliad

Bydd aelod o’r tîm yn cwrdd â chi wrth y brif fynedfa.

Cyfeiriad

Y cyfeiriad yw:

Neuadd Tref Llangollen
Heol y Castell
Llangollen
Sir Ddinbych
LL20 8NU

Parcio

Y maes parcio agosaf ydi maes parcio’r Cyngor ar Stryd y Farchnad.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae lifft ar gael.

Canolfan Deuluoedd Llanrwst (Conwy)

Gwybodaeth am y gweithdy

Cynhelir y gweithdy:

  • Lle: Canolfan Deuluoedd Llanrwst
  • Dyddiad: Dydd Iau 4 Mawrth 2027
  • Amser: 9:30am tan 2:30pm

Gwybodaeth am y lleoliad

Bydd aelod o’r tîm yn cwrdd â chi wrth y brif fynedfa.

Cyfeiriad

Y cyfeiriad yw:

Canolfan Deuluoedd Llanrwst
Heol Watling
Llanwrst
Conwy
LL26 0LS

Parcio

Mae lle i barcio ar y stryd am gyfnod byr, cyfyngedig neu mae gan y Cyngor faes parcio gerllaw.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae popeth ar y llawr gwaelod.

Sut i gymryd rhan

Mae’r gweithdy’n rhad ac am ddim ond mae’n rhaid ichi wneud cais i gymryd rhan gan fod lleoedd yn brin. Mae’n rhaid i bawb wneud cais am le iddynt eu hunain.

Gwneud cais am le yn y Gweithdy Cefnogi i Leihau Ymddygiad Heriol

Mwy o wybodaeth

Cysylltwch â ni os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gweithdy.

Mae cymorth a chyngor hefyd ar gael ar ein gwe-dudalen am leihau ymddygiad sy’n herio.

Gwyliwch ein fideo

Mae’r fideo ‘Helpu lleihau ymddygiad sy’n herio’ yn edrych ar y rhesymau sylfaenol dros ymddygiad heriol ymysg plant trwy lens yn seiliedig ar berthnasau. Mae’n cwmpasu:

  • achosion cyffredin ymddygiad
  • sut mae sgiliau megis cynllunio a chanolbwyntio (gweithrediad goruchwyliol) yn chwarae rhan
  • pam mai perthynas cryf a charedig yw’r ffordd orau o helpu
  • sut mae aros yn chwilfrydig a chysylltiedig yn arwain at newid gwirioneddol

Gwyliwch y fideo ‘Helpu lleihau ymddygiad sy’n herio’ ar YouTube (gwefan allanol)


Mae’r Tîm Integredig Teuluoedd Lleol yn dîm aml-asiantaeth, a ariennir gan Gydweithfa Gwella Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru.

Logo Cydweithredfa Gwella Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru Logo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrLogo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Logo Cyngor Sir Ddinbych