Lleihau ymddygiad sy’n herio

Pan fydd plant yn cael trafferth ymdopi â theimladau mawr, straen, anghenion synhwyraidd, anawsterau cyfathrebu, neu reoli gorchmynion, gall hyn yn aml ddod i’r amlwg drwy ymddygiadau sydd yn herio gartref, yn yr ysgol neu yn y gymuned.

Cymorth a chyngor

Mae hi’n bwysig cofio mai ffurf o gyfathrebu ydi ymddygiad plant.

Beth allwch chi ei wneud?

Yn hytrach na gofyn:

"Beth sy’n bod gyda’r plentyn yma?”

Gofynnwch:

“Beth mae’r plentyn yma’n ceisio ei gyfathrebu?”

Pan fydd ymddygiad yn troi’n heriol, mae’n aml yn arwydd bod plentyn angen cefnogaeth, cysylltiad, dealltwriaeth neu help i ddatblygu sgiliau.

Pwysigrwydd cysylltiad

Gall perthynas ddigyffro, gysylltiedig helpu plentyn i deimlo’n ddiogel ac wedi’i gefnogi.

Mae strategaethau cynorthwyol yn cynnwys:

  • treulio amser o safon gyda’ch gilydd yn rheolaidd
  • gwrando a dilysu teimladau
  • peidio â chynhyrchu yn ystod adegau anodd
  • defnyddio iaith syml a chlir
  • adfer y berthynas ar ôl ffraeo
  • canmol ymdrech ac ymddygiad cadarnhaol
  • helpu plant i deimlo eu bod yn cael eu deall cyn datrys problemau
  • oedolyn wedi’i reoleiddio i helpu i gefnogi plentyn wedi’i reoleiddio

Pan mae plant yn teimlo wedi’u gorlethu, gall eu hymennydd symud i fodd “ymladd, rhewi neu gau i lawr”.

Yn ystod yr adegau yma:

  • mae hi’n anoddach dysgu
  • mae hi’n anoddach gwrando
  • mae hi’n anoddach meddwl yn glir

Yn aml mae plant angen:

  • cefnogaeth ddigyffro
  • arferion rhagweladwy
  • cydreoleiddio gan oedolion
  • llai o orchmynion
  • amser a lle i adfer

Pethau y gellir eu gwneud yn ddyddiol i wella ymddygiad

Gall y canlynol helpu i wella ymddygiad:

  • treulio amser gyda’ch gilydd
  • cwsg ac arferion
  • symudiad iach a chwarae
  • cyswllt emosiynol
  • ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar
  • gweithgareddau awyr agored

Gweithdy Cefnogi i Leihau Ymddygiad sy’n Herio

Gallwch hefyd ddysgu ac ymarfer strategaethau yn ein Gweithdy Cefnogi i Leihau Ymddygiad sy’n Herio

Dysgwch fwy am y Gweithdy yma, yn cynnwys sut i archebu lle.

Gwyliwch ein fideo

Mae’r fideo ‘Helpu lleihau ymddygiad sy’n herio’ yn edrych ar y rhesymau sylfaenol dros ymddygiad heriol ymysg plant trwy lens yn seiliedig ar berthnasau. Mae’n cwmpasu:

  • achosion cyffredin ymddygiad
  • sut mae sgiliau megis cynllunio a chanolbwyntio (gweithrediad goruchwyliol) yn chwarae rhan
  • pam mai perthynas cryf a charedig yw’r ffordd orau o helpu
  • sut mae aros yn chwilfrydig a chysylltiedig yn arwain at newid gwirioneddol

Gwyliwch y fideo ‘Helpu lleihau ymddygiad sy’n herio’ ar YouTube (gwefan allanol)


Mae’r Tîm Integredig Teuluoedd Lleol yn dîm aml-asiantaeth, a ariennir gan Gydweithfa Gwella Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru.

Logo Cydweithredfa Gwella Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru Logo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrLogo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Logo Cyngor Sir Ddinbych