Tîm Integredig Teuluoedd Lleol: Gweithdy Datblygu Gwytnwch Teuluol

Mae'r gweithdy Datblygu Gwytnwch Teuluol yn helpu rhieni a gofalwyr i gryfhau perthnasoedd a gwella’r ffyrdd o gyfathrebu, gan sicrhau bod plant ac oedolion yn teimlo'n ddiogel, yn gysylltiedig ac yn cael eu cefnogi.

Mae grŵp yn eistedd o flaen bwrdd gwyn tra bod y siaradwr yn pwyntio at syniad, wedi'i amgylchynu gan eiconau ar gyfer gwaith tîm, cyfathrebu a chynllunio.

Beth i’w ddisgwyl:

  • bydd aelodau o’n tîm yn eich croesawu wrth ichi gyrraedd a byddant yn hapus i helpu os nad ydych chi’n siŵr ble i fynd
  • mae lle tawel ar gael os bydd arnoch angen seibiant draw o’r grŵp
  • awyrgylch braf, groesawgar a dim beirniadu
  • dysgu strategaethau ymarferol y gallwch eu defnyddio gartref
  • cyfleoedd i ofyn cwestiynau gydol y sesiwn
  • cyfle i gwrdd â rhieni a gofalwyr eraill
  • darperir te, coffi a lluniaeth ond dewch â’ch cinio eich hun

Dyma sylwadau gan rai o’r rhieni a gymerodd ran mewn gweithdai blaenorol:

  • "Erbyn y diwedd roeddwn i’n teimlo’n llai unig a bod pobl yn fy neall i.”

  • "Roedd y strategaethau’n ymarferol, realistig a hawdd eu defnyddio gartref.”

  • "Roedd yr hwyluswyr yn glên, yn hawdd siarad â nhw ac fe wnaethon helpu pawb i ymlacio.”

  • "Dwi’n difaru peidio â chymryd rhan yn gynt – roedd yn help mawr imi ddeall fy mhlentyn yn well.”

Ar gyfer pwy mae’r gweithdy?

Mae’r gweithdy ar gyfer pawb sy’n byw yng Nghonwy neu Sir Ddinbych sy’n gofalu am blant rhwng 0 a 18 oed, a’r nod yw cefnogi rhieni a gofalwyr sy’n wynebu amryw fathau o ymddygiad heriol.

Pryd a lle cynhelir y gweithdai?

Mae’r Gwasanaeth yn cynnal y gweithdy bob hanner tymor gydol y flwyddyn mewn amryw fannau ledled Sir Ddinbych a Chonwy.

Dewiswch ardal i gael gwybod pryd a ble cynhelir y gweithdy:

Canolfan Fordd Douglas (Conwy)

Gwybodaeth am y gweithdy

Cynhelir y gweithdy:

  • Lle: Canolfan Fordd Douglas
  • Dyddiad: Dydd Mercher 11 Tachwedd 2026
  • Amser: 9:30am tan 2:30pm

Gwybodaeth am y lleoliad

Bydd aelod o’r tîm yn cwrdd â chi wrth y brif fynedfa.

Cyfeiriad

Y cyfeiriad yw:

Canolfan Fordd Douglas
Ffordd Douglas
Bae Colwyn
Conwy
LL29 7PE

Parcio

Mae lleoedd i barcio’n brin; mae gan y Cyngor faes parcio gyferbyn â Chanolfan Ffordd Douglas.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae popeth ar y llawr gwaelod.

Neuadd Tref Llangollen (Sir Ddinbych)

Gwybodaeth am y gweithdy

Cynhelir y gweithdy:

  • Lle: Llangollen Town Hall
  • Dyddiad: Dydd Mawrth 12 Ionawr 2027
  • Amser: 9:30am tan 2:30pm

Gwybodaeth am y lleoliad

Bydd aelod o’r tîm yn cwrdd â chi wrth y brif fynedfa.

Cyfeiriad

Y cyfeiriad yw:

Neuadd Tref Llangollen
Heol y Castell
Llangollen
Sir Ddinbych
LL20 8NU

Parcio

Y maes parcio agosaf ydi maes parcio’r Cyngor ar Stryd y Farchnad.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae lifft ar gael.

Canolfan Deuluoedd Llanrwst (Conwy)

Gwybodaeth am y gweithdy

Cynhelir y gweithdy:

  • Lle: Canolfan Deuluoedd Llanrwst
  • Dyddiad: Dydd Iau 25 Chwefror 2027
  • Amser: 9:30am tan 2:30pm

Gwybodaeth am y lleoliad

Bydd aelod o’r tîm yn cwrdd â chi wrth y brif fynedfa.

Cyfeiriad

Y cyfeiriad yw:

Canolfan Deuluoedd Llanrwst
Heol Watling
Llanwrst
Conwy
LL26 0LS

Parcio

Mae lle i barcio ar y stryd am gyfnod byr, cyfyngedig neu mae gan y Cyngor faes parcio gerllaw.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae popeth ar y llawr gwaelod.

Sut i gymryd rhan

Mae’r gweithdy’n rhad ac am ddim ond mae’n rhaid ichi wneud cais i gymryd rhan gan fod lleoedd yn brin. Mae’n rhaid i bawb wneud cais am le iddynt eu hunain.

Gwneud cais am le ar y gweithdy Cefnogi i Ddatblygu Gwytnwch Teuluol

Mwy o wybodaeth

Cysylltwch â ni os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gweithdy.

Mae cymorth a chyngor ar gael ar ein tudalen we ar Ddatblygu Gwytnwch Teuluol hefyd.

Gwyliwch ein fideo

Mae’r fideo ‘Sut i feithrin gwydnwch rhag straen i rieni’ yn archwilio sut mae straen parhaus yn effeithio ar eich corff, eich ymennydd a’r ffordd rydych yn magu plant. Mae'n egluro:

  • sut mae’r gylchred straen yn gweithio a’r arwyddion o deimlo wedi llethu
  • effaith straen hirdymor ar eich lles a pherthnasau
  • ffyrdd sydyn i reoli straen yn y fan a’r lle
  • sut i feithrin gwydnwch a phwysigrwydd hunanofal
  • sut i ddeall eich anghenion eich hun gyda mwy o gydymdeimlad

Gwyliwch y fideo ‘Sut i feithrin gwydnwch rhag straen i rieni’ ar YouTube (gwefan allanol)


Mae’r Tîm Integredig Teuluoedd Lleol yn dîm aml-asiantaeth, a ariennir gan Gydweithfa Gwella Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru.

Logo Cydweithredfa Gwella Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru Logo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrLogo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Logo Cyngor Sir Ddinbych