Datblygu gwytnwch teuluoedd

Yn y Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol, rydym yn deall bod pob teulu yn wynebu heriau ar adegau. Mae datblygu gwytnwch teuluoedd yn golygu cryfhau perthnasoedd, gwella’r ffyrdd o gyfathrebu, a helpu plant ac oedolion i deimlo'n ddiogel, yn gysylltiedig a’u cefnogi.

Mae grŵp yn eistedd o flaen bwrdd gwyn tra bod y siaradwr yn pwyntio at syniad, wedi'i amgylchynu gan eiconau ar gyfer gwaith tîm, cyfathrebu a chynllunio.

Beth yw gwytnwch teuluoedd?

Gwytnwch teuluoedd yw’r gallu i:

  • weithio drwy heriau gyda’ch gilydd
  • dod dros brofiadau sy’n achosi straen
  • meithrin cysylltiadau emosiynol cryf
  • cefnogi lles ei gilydd

Nid yw gwytnwch yn golygu nad yw teuluoedd byth yn cael pethau’n anodd.  Mae'n golygu dysgu ffyrdd o ymdopi, adfer perthnasoedd a chryfhau gyda'i gilydd.

Gweithdy Datblygu Gwytnwch Teuluol

Gallwch hefyd ddysgu ac ymarfer strategaethau yn ein Gweithdy Datblygu Gwytnwch Teuluol.

Dysgwch fwy am y Gweithdy yma, yn cynnwys sut i archebu lle.

Sut i ddatblygu gwytnwch

Dyma rai ffyrdd o ddatblygu gwytnwch:

  • cysylltiad – mae plant ac oedolion yn gwneud yn well pan fyddant yn teimlo eu bod yn cael eu deall a'u cefnogi
  • arferion – gall arferion rhagweladwy helpu i dawelu’r meddwl a theimlo’n fwy diogel
  • rheoli emosiynau – mae plant yn dysgu rheoli emosiynau drwy oedolion cefnogol sy'n rheoleiddio eu hunain
  • perthnasoedd cadarnhaol – mae perthnasoedd cryf, ymdrech a chynnydd yn meithrin hyder
  • hunanofal i rieni – mae gofalu amdanoch chi'ch hun yn rhan bwysig o gefnogi eich plentyn

Ymwybyddiaeth ofalgar a lles

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn golygu canolbwyntio ar y foment gyda chwilfrydedd a heb farnu. Gall helpu i leihau straen, helpu i reoli emosiynau, a chryfhau cysylltiadau teuluol.

Mae syniadau ymwybyddiaeth ofalgar yn cynnwys:

  • ymarferion anadlu’n araf
  • ymwybyddiaeth ofalgar dros baned
  • gweithgareddau tawelu gan ddefnyddio’r synhwyrau
  • teithiau cerdded ymwybyddiaeth ofalgar
  • hunan-dosturi

Grwpiau ymwybyddiaeth ofalgar a lles

Y grwpiau Lles a Chefnogaeth Cymdeithasol yng Nghonwy a Sir Ddinbych yw:

Gweithgareddau

Gallai gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar i deuluoedd gynnwys:

  • chwilio am liwiau yn ystod teithiau cerdded
  • gweithgaredd ymdawelu gyda jar gliter
  • gemau anadlu gyda swigod neu falŵns
  • ymwybyddiaeth ofalgar natur
  • amser i ddiolch am deulu

Mae grwpiau wyneb yn wyneb, canolfannau cymunedol a gweithgareddau awyr agored ar draws Conwy a Sir Ddinbych sy'n cynnig cyfleoedd gwych i gysylltu ag eraill, dysgu sgiliau newydd a chefnogi eich lles meddyliol.

Grwpiau gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd

Mae'r grwpiau gweithgareddau canlynol ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd ar gael yng Nghonwy a Sir Ddinbych:

Creu man tawel gartref

Gallai teuluoedd elwa o greu man tawel gyda:

  • Chlustogau neu flancedi
  • Eitemau synhwyraidd neu deganau llonyddu
  • Gweithgareddau lliwio neu lyfrau
  • Cerddoriaeth i ymlacio neu i anadlu’n ddwfn

Nid lle ar gyfer cosbi yw man tawel — ond lle ar gyfer cefnogi.

Cefnogaeth a Chyngor

Gallwch ddod o hyd i gymorth ac adnoddau i greu man tawel gartref yn:

Gwyliwch ein fideo

Mae’r fideo ‘Sut i feithrin gwydnwch rhag straen i rieni’ yn archwilio sut mae straen parhaus yn effeithio ar eich corff, eich ymennydd a’r ffordd rydych yn magu plant. Mae'n egluro:

  • sut mae’r gylchred straen yn gweithio a’r arwyddion o deimlo wedi llethu
  • effaith straen hirdymor ar eich lles a pherthnasau
  • ffyrdd sydyn i reoli straen yn y fan a’r lle
  • sut i feithrin gwydnwch a phwysigrwydd hunanofal
  • sut i ddeall eich anghenion eich hun gyda mwy o gydymdeimlad

Gwyliwch y fideo ‘Sut i feithrin gwydnwch rhag straen i rieni’ ar YouTube (gwefan allanol)


Mae’r Tîm Integredig Teuluoedd Lleol yn dîm aml-asiantaeth, a ariennir gan Gydweithfa Gwella Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru.

Logo Cydweithredfa Gwella Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru Logo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrLogo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Logo Cyngor Sir Ddinbych