Sgoriau hylendid bwyd

Gallwch ddarganfod os oes gan fwyty neu siop fwyd parod rydych chi am fwyta yno neu brynu bwyd yno safonau hylendid bwyd da.

Rydym ni’n rhan o’r Cynllun Cenedlaethol Sgorio Hylendid Bwyd, sy’n cael ei redeg gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae ein swyddogion diogelwch bwyd yn archwilio siopau bwyd parod, bwytai, tafarndai a chlybiau ac yn rhoi sgôr rhwng 0 a 5 iddyn nhw am safon eu hylendid bwyd.

Chwilio am fusnes bwyd i wybod beth yw eu gradd hylendid bwyd (gwefan allanol).

Gwybodaeth i fusnesau

Apeliadau

Gallwch apelio yn erbyn eich sgôr drwy lenwi a dychwelyd ffurflen apelio.

Hylendid busnesau bwyd: ffurflen apêl (MS Word, 167KB)

Ail-sgorio

Gallwch hefyd wneud cais i ail sgorio eich busnes. Byddwch angen llenwi a dychwelyd y ffurflen gais ail-sgorio ynghyd â thalu £180.

Er mwyn i'r archwiliad ail-sgorio gael ei gynnal, rhaid arddangos eich Sticer/i Scor Hylendid Bwyd yn unol ar rheoliad.

Hylendid busnesau bwyd: ffurflen ar gyfer cais am arolygiad ailsgorio (MS Word, 173KB)

Hawl i ymateb

Os ydych chi’n rhedeg busnes bwyd, mae gennych hawl i ymateb ar ôl archwiliad hylendid bwyd, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar y wefan ynghyd â’ch sgôr. Byddwch angen llenwi a dychwelyd ffurflen hawl i ymateb i wneud hyn.

Hylendid busnesau bwyd: ffurflen hawl i ymateb (MS Word, 150KB)

Cyhoeddi sgôr cyn i'r cyfnod apelio ddod i ben

Gall perchnogion busnes neu reolwyr ofyn am i sgôr gael ei gyhoeddi cyn diwedd y cyfnod apelio.

Cynllun sgorio hylendid bwyd: ffurflen cais i gyhoeddir sgor yn gynnar (MS Word, 69KB)