Cardiau Teithio’n Rhatach
Mae Cerdyn Teithio’n Rhatach yn eich galluogi i deithio am ddim ar fwyafrif y gwasanaethau bysiau ledled Cymru a chael gostyngiad neu deithio am ddim ar nifer o wasanaethau trên.
Cymhwysedd
Gallwch gael Cerdyn Teithio’n Rhatach os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod naill ai:
- dros 60 oed
- yn unigolyn anabl cymwys
Mae unigolyn anabl cymwys yn rhywun sy’n ateb un o’r meini prawf canlynol:
- mae’n ddall neu’n rhannol ddall
- mae’n hollol fyddar neu’n ddifrifol fyddar
- mae’n methu â siarad
- mae ganddynt anhwylder neu anaf hirdymor sy’n ei gwneud yn anodd iddynt gerdded
- maent wedi colli eu dwy fraich neu’n methu â defnyddio eu dwy fraich yn yr hirdymor
- mae ganddynt anabledd dysgu neu nam gwybyddol sy’n effeithio ar eu gallu i ddeall gwybodaeth newydd neu gymhleth
- nid ydynt yn cael gyrru oherwydd anhwylder iechyd corfforol hirdymor (nad yw’n ymwneud â defnyddio alcohol neu gyffuriau)
- mae’n derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:
- Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl
- Taliad Annibyniaeth Bersonol, wedi’i ddyfarnu ar ôl cyrraedd: 8 neu fwy o bwyntiau o dan Ddisgrifydd 7 “Cyfathrebu ar Lafar”
- Taliad Annibyniaeth Bersonol, wedi’i ddyfarnu ar ôl cyrraedd: 12 pwynt o dan Ddisgrifydd Symudedd 11 “Cynllunio a Dilyn Siwrnai”
- Taliad Annibyniaeth Bersonol, wedi’i ddyfarnu ar ôl cyrraedd: 8 neu fwy o bwyntiau o dan Ddisgrifydd Symudedd 12 “Symud o Gwmpas”
- Atodiad Symudedd Pensiynwr y Rhyfel (WPMS)
- Dyfarniad o dan Dariffau 1-8 o Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog (AFCS)
Ni ellir adio disgrifyddion Taliadau Annibyniaeth Bersonol a’u sgoriau unigol at ei gilydd.
Sut i Wneud Cais am Gerdyn Teithio’n Rhatach
Bydd angen i chi wneud cais i Drafnidiaeth Cymru am Gerdyn Teithio’n Rhatach.
Wrth wneud cais, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch oedran, cyfeiriad a/neu anabledd (os oes angen).
Gwybodaeth am ba ddogfennau y gallwch eu defnyddio fel tystiolaeth o’ch oedran, cyfeiriad a/neu anabledd (gwefan allanol)
Gwneud cais ar-lein
Gallwch wneud cais am Gerdyn Teithio’n Rhatach ar-lein trwy edrych ar wefan Trafnidiaeth Cymru.
Ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru i wneud cais am Gerdyn Teithio’n Rhatach (gwefan allanol)
Cardiau newydd
Os ydych yn colli neu ddifrodi eich cerdyn, y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud cais am un newydd yw trwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar wefan Trafnidiaeth Cymru.
Mewngofnodi i’ch cyfrif Trafnidiaeth Cymru (gwefan allanol)