Cerdyn Teithio Cydymaith 

Mae Cerdyn Teithio Cydymaith yn caniatáu i rywun gyda Cherdyn Teithio Rhatach, na all deithio ar ei ben ei hun, gael rhywun i deithio gyda nhw am ddim ar deithiau bws lleol.

I gael gwybod mwy am Gardiau Teithio Rhatach, ewch i'n tudalen we Cardiau Teithio Rhatach, sy'n cynnwys gwybodaeth am bwy sy'n gymwys a sut i wneud cais.

Cymhwysedd ar gyfer Cerdyn Teithio Cydymaith

Efallai y bydd unigolyn yn gymwys i dderbyn Cerdyn Teithio Cydymaith os oes ganddynt, neu eu bod yn gwneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach, ac os ydynt yn bodloni un o'r meini prawf canlynol:

  • gydag anabledd neu anaf sy'n effeithio ar eu symudedd yn ddifrifol
  • maent yn fyddar, yn ddall/yn rhannol ddall ac heb leferydd
  • ni allant ddefnyddio'r ddwy fraich
  • mae ganddynt anabledd dysgu difrifol
  • maent yn cael anhawster defnyddio cadair olwyn yn annibynnol

Sut i wneud cais am Gerdyn Teithio Cydymaith

Bydd angen i chi wneud cais ar-lein i ni (Cyngor Sir Dinbych) am Gerdyn Teithio Cydymaith.

Wrth wneud cais, bydd angen i chi ddarparu:

  • manylion y sawl sydd gyda, neu sydd yn y broses o wneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach, megis:
    • enw
    • dyddiad geni
    • manylion cyswllt
    • Rhif Yswiriant Gwladol (os yw’r unigolyn yn hŷn nag 16 oed)
  • llun pasbort clir a diweddar (ar gyfer y sawl sydd gyda, neu sydd yn y broses o wneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach)
  • dwy ddogfen yn cadarnhau cyfeiriad yr ymgeisydd
  • tystiolaeth o anabledd neu gyflwr meddygol yr ymgeisydd, a ddarperir gan weithiwr proffesiynol gofal cymdeithasol, iechyd neu feddygol cymwys

Canllaw i Ymgeiswyr

Dewiswch un o'r canlynol i weld canllawiau ar yr hyn sydd ei angen wrth wneud cais:

Llun o’r ymgeisydd

Byddwn angen llun o’r unigolyn sydd gyda, neu sydd yn y broses o wneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach.

Canllawiau ar gyfer y lluniau o’r unigolyn

Dylai’r llun o’r unigolyn gynnwys eu pen, eu hysgwyddau a rhan uchaf y corff, ac mae’n rhaid i’r unigolyn wneud y canlynol:

  • wynebu ymlaen ac edrych yn syth i’r camera
  • dim mynegiant a’u ceg ynghau
  • cadw eu llygaid ar agor a sicrhau eu bod nhw’n amlwg
  • dim gwallt o flaen eu llygaid
  • dim gorchudd pen (oni bai ei fod am resymau crefyddol neu feddygol)
  • dim byd yn gorchuddio eu hwyneb
  • dim cysgodion dros eu hwyneb nac y tu ôl iddynt

Sbectol

Ni ddylai’r unigolyn wisgo sbectol, oni bai bod rhaid iddynt wneud hynny. Os oes rhaid iddynt wisgo sbectol, ni allant fod yn sbectol haul na chwaith yn sbectol wedi’u tintio, ac mae’n rhaid iddynt sicrhau nad yw’r fframiau yn cuddio eu hwyneb, na chwaith unrhyw lewyrch, adlewyrchiad na chysgod.

Ansawdd y llun

Mae’n rhaid i’r llun:

  • fod yn glir, mewn ffocws ac mewn lliw
  • ni ddylai fod wedi’i addasu gan feddalwedd cyfrifiadurol
  • ni ddylai fod yn fwy na 10MB o ran maint ffeil
  • ni ddylai gynnwys unrhyw wrthrychau na phobl eraill
  • fod wedi’i dynnu yn erbyn cefndir plaen, lliw golau
  • dylai gyferbynnu’n glir â’r cefndir
  • dim ‘llygaid coch’ ’
Rhif Yswiriant Gwladol

Mae Rhifau Yswiriant Gwladol yn cychwyn â dwy lythyren ac yna chwe rhif ac un llythyren ar eu hôl (e.e. QQ123456A)

Gallwch ddod o hyd i'ch rhif Yswiriant Gwladol ar ddogfennau fel slipiau cyflog, ffurflenni P60, neu lythyrau am fudd-daliadau, neu drwy fewngofnodi i'ch cyfrif treth personol.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i ddod o hyd i'ch rhif Yswiriant Gwladol ar gael ar GOV.UK.

Dod o hyd i'ch rhif Yswiriant Gwladol (gwefan allanol)

Prawf o gyfeiriad

Bydd angen i bob ymgeisydd ddarparu dau o'r canlynol, a all fod yn llythyr neu'n ddogfen swyddogol gan y sefydliad:

  • bil Treth y Cyngor neu dystiolaeth o eithriad Treth y Cyngor (blwyddyn ariannol bresennol)
  • Tystiolaeth o daliadau rhent (o fewn y 3 mis diwethaf)
  • Trwydded yrru gyfredol
  • Dogfennau budd-daliadau neu bensiwn (blwyddyn ariannol bresennol)
  • Bil cyfleustodau heb gynnwys ffôn symudol (o fewn y 3 mis diwethaf)
  • Cadarnhad bod yr ymgeisydd ar y Gofrestr Etholiadol ar gyfer Etholiadau Seneddol y DU
  • Cadarnhad bod yr ymgeisydd ar Gofrestr yr Ysgol
  • Tystiolaeth bod yr ymgeisydd yn ddibynnol ar unigolyn sy’n breswylydd yn ardal yr awdurdod lleol
  • Tystiolaeth bod yr ymgeisydd dan ofal yr awdurdod lleol neu asiantaeth gymeradwyo a’u bod yn breswylydd yn ardal yr awdurdod lleol
  • Tystiolaeth bod yr ymgeisydd wedi cofrestru’n barhaol gyda meddyg teulu lleol
  • Tystiolaeth o ddogfennaeth y Swyddfa Gartref yn cadarnhau preswyliad

Dim ond dwy o'r dogfennau a restrir sydd angen i chi eu darparu (nid oes angen i chi ddarparu'r holl ddogfennau a restrir)

Tystiolaeth o gyflwr meddygol neu anabledd

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth gan naill ai weithiwr meddygol cymwys, gweithiwr iechyd neu weithiwr cymdeithasol gyda’r cais.

Gall hyn fod yn llythyr oddi wrth weithwyr meddygol, gweithiwr cymdeithasol, neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn egluro pam mae angen rhywun i deithio gyda chi.

Darparu lluniau a dogfennau

Wrth wneud cais, gallwch uwchlwytho lluniau a dogfennau. Gallwch:

  • uwchlwytho llun neu ffeil ddogfennau o’r ddyfais yr ydych chi’n ei defnyddio
  • tynnu llun o ddogfen a’i uwchlwytho

Gwneud cais ar-lein

Gwnewch Gais am Gerdyn Teithio Cydymaith

Beth sy’n digwydd ar ôl gwneud cais?

Ar ôl cyflwyno cais, byddwn yn adolygu'r wybodaeth a ddarparwyd ac efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi am fwy o fanylion.

Byddwn yn prosesu eich cais o fewn pythefnos.

Ymgeiswyr llwyddiannus

Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn trefnu i Gerdyn Teithio Cydymaith gael ei anfon atoch cyn gynted â phosibl. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn anfon eich cerdyn a all gymryd 10 diwrnod gwaith pellach.

Ni all cydymaith deithio am ddim gyda deiliad Cerdyn Teithio Rhatach nes bod ganddynt Gerdyn Teithio Cydymaith.

Adolygu Cerdyn Teithio Cydymaith

Byddwn yn adolygu a ydych chi'n dal yn gymwys i gael Cerdyn Teithio Cydymaith bob tair blynedd, oni bai bod eich cyflwr yn barhaol.

Ymgeiswyr aflwyddiannus

Os yw eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn rhoi gwybod i chi.