Gorchmynion llwybr cyhoeddus

Weithiau, cynhigir newidiadau i lwybrau cyhoeddus a ddangosir ar ein map diffiniol. Gallwn dderbyn cais am newid neu wneud yr argymhelliad ein hunain. Edrychwn ar dystiolaeth ynghylch pam fod angen gwneud newid, ac fe ymgynghorwn â pherchnogion tir a’r gymuned leol.

Os yw’n gwneud synnwyr i fwrw ymlaen â’r newid a bod y cais yn bodloni’r gofynion cyfreithiol, byddwn yn cyhoeddi ‘Gorchymyn Addasu Map Diffiniol’ neu ‘Gorchymyn Gwyro Llwybr’ a fydd yn cynnwys y manylion llawn. Bydd unrhyw orchmynion cyfredol yn cael eu hychwanegu isod, yn ogystal â chael eu cyhoeddi yn y lleoliad, yn wasg ac yn y gymuned a effeithir arni.

Bydd cyfnod penodol i bobl rannu eu sylwadau neu wrthwynebu’r newidiadau a awgrymir yn y gorchymyn. Gall yr adborth hwn arwain at wrandawiad neu ymchwiliad cyhoeddus, ac os digwyddir hynny, byddwn yn cyhoeddi hysbysiad yn cynnwys y manylion. Gellir cynnal ymchwiliadau wyneb yn wyneb neu ar-lein, a bydd gwybodaeth ynghylch sut i fynychu a chymryd rhan yn cael ei chynnwys yn yr hysbysiad.

Os bydd y cynigion yn cael eu cymeradwyo, byddwn yn cyhoeddi cadarnhad o’r gorchymyn, gan gynnwys unrhyw newidiadau a wnaed o ganlyniad i adborth pobl a’r dyddiad y daw i rym.

Gorchmynion cyfredol

Llwybr troed cyhoeddus rhwng Ffordd Talargoch a llwybr cyhoeddus 19 Gallt Melyd, Prestatyn

Dyddiad y gwnaed y gorchymyn: 13 Ionawr 2021

Dyddiad cadarnhau’r gorchymyn: 13 Mai 2023

FP55 gorchymyn wedi'i selio a'i gadarnhau gan PCAC (PDF, 596KB)

Llwybr troed cyhoeddus 59, Llanarmon yn Iâl

Dyddiad y gwnaed y gorchymyn: 21 Chwefror 2023

Hysbysiad o orchymyn wedi'i wneud: FP59 Llanarmon-yn-Ial (PDF, 1.57 MB)