Casgliadau gwastraff gardd

Am ffi flynyddol, gallwn ddod i gasglu eich gwastraff gardd, gan gynnwys y canlynol:

  • toriadau gwair
  • thociadau gardd
  • canghennau a brigau
  • dail
  • rhisgl
  • blodau
  • rhisgl pren a siafins
  • planhigion

Ni fyddwn yn gwagio bagiau gwastraff gwyrdd neu finiau gwyrdd sy’n cynnwys; pridd, gwastraff cartref cyffredinol, cynnyrch bwyd neu unrhyw wair/ naddion pren, pren neu bapur wedi’u halogi gan anifeiliaid.

Tanysgrifio, adnewyddu neu uwchraddio

Gallwch gofrestru, adnewyddu neu uwchraddio eich casgliadau gwastraff gardd:

Tanysgrifiadau / adnewyddu ar-lein

  • Gall preswylwyr sydd â thanysgrifiad gwastraff gardd cyfredol adnewyddu neu uwchraddio eu tanysgrifiad yn unig. Dewiswch ‘Adnewyddu tanysgrifiad gwastraff gardd’ neu ‘Uwchraddio tanysgrifiad gwastraff gardd’ pan ofynnir i chi wneud hynny ar y ffurflen ar-lein.
  • Mae’n rhaid i breswylwyr sydd â thanysgrifiad gwastraff gardd sydd wedi dod i ben neu nad yw’n weithredol wneud cais am danysgrifiad newydd. Dewiswch “Gwneud cais am danysgrifiad gwastraff gardd newydd” pan ofynnir i chi wneud hynny ar y ffurflen ar-lein.

I wirio a oes gennych danysgrifiad gwastraff gardd gweithredol, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt Cwsmer ar 01824 706000 neu ymwelwch ag un o Lyfrgelloedd / Siopau Un Alwad Sir Ddinbych - oriau agor yma.

Cofrestru, adnewyddu neu uwchraddio casgliadau gwastraff gardd ar-lein

Bydd gwasanaeth tanysgrifio gwastraff gardd Sir Ddinbych yn ailagor i drigolion ddydd Llun gyda strwythur talu diwygiedig sy'n dod rym o 1 Ebrill 2025.

Mae'r Cyngor yn annog trigolion sy'n tanysgrifio am y tro cyntaf i wneud hyn mewn da bryd i sicrhau y gellir dosbarthu biniau newydd mewn pryd ar gyfer 1 Ebrill ac i fanteisio'n llawn ar y gwasanaeth 12 mis.

Bydd trigolion sydd eisoes â thanysgrifiad sy’n ymestyn tu hwnt i 1 Ebrill, ddim ond yn talu cyfran o’r ffi tanysgrifio 12 mis – o’u dyddiad adnewyddu i 31 Mawrth 2026. Mae’r costau newydd i’w gweld isod.

Bydd y gwasanaeth tanysgrifio diwygiedig yn rhedeg am gyfnod o 12 mis rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth bob blwyddyn.

Faint yw'r gost?

Mae cost ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn dibynnu ar nifer y cynwysyddion a ddefnyddiwch a sut yr ydych yn tanysgrifio - mae'n rhatach os ydych yn tanysgrifio ar-lein.

Cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu newydd neu amnewid

Mae taliadau ar gyfer rhai cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu newydd neu amnewid.

Gan amlaf, bydd cynwysyddion gwastraff gardd newydd yn rhad ac am ddim, fodd bynnag rydym yn cadw’r hawl i godi ffi am gynhwysydd newydd os bydd angen. Pan fydd yna ffioedd i’w talu, mae’r prisiau i’w gweld isod.

Ffioedd am gynwysyddion gwastraff gardd
CynhwysyddFfi
Biniau gwyrdd ar olwynion (pob maint) newydd neu yn lle’r rhai presennol £25
Tair sach £15
Sach yn lle’r un bresennol £5 yr un

Atgyweirio bin olwynion neu Drolibocs sydd wedi'i ddifrodi

Os oes gennych fin olwynion neu Drolibocs wedi'i ddifrodi, efallai y gallwn ei drwsio. Dysgwch am atgyweiriadau i finiau gwastraff ac ailgylchu sydd wedi'u difrodi.

Sut i archebu cynhwysydd newydd

Gallwch archebu cynhwysydd newydd ar-lein.

Archebu cynhwysydd gwastraff neu ailgylchu newydd ar-lein

Cwsmeriaid sy’n derbyn y gwasanaeth bagiau

Yn anffodus, nid yw’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd ar gael i gwsmeriaid sy’n derbyn y gwasanaeth bagiau, ar gyfer casglu eu hailgylchu a’u gwastraff. Os ydych chi ar y gwasanaeth bagiau, peidiwch â chofrestru ar gyfer y casgliadau gwastraff gardd. Byddwn yn adolygu hyn ac yn rhoi gwybod i chi os bydd unrhyw newidiadau.