Ardaloedd gadwraeth a cydsyniad 

Darnau o dir y dylid eu diogelu neu eu gwella gan eu bod yn cyfrannu tuag at gymeriad neu ymddangosiad y lleoedd hynny, yn ôl awdurdodau lleol, ydi ardaloedd cadwraeth. Mae ardaloedd cadwraeth yn tueddu i fod yn ganolfannau trefi a phentrefi ond gallant gynnwys strwythurau hanesyddol unigol neu gasgliad ohonynt.

Ym mhle mae yna ardaloedd cadwraeth yn Sir Ddinbych?

Gallwch chi weld yr ardaloedd gadwraeth ar fap rhyngweithiol.

Gweld yr ardaloedd gadwraeth ar fap rhyngweithiol

Cydsyniad ardal gadwraeth

Byddai angen cydsyniad ardal gadwraeth ar gyfer dymchweliad sylweddol neu ddymchweliad llwyr adeilad mewn ardal gadwraeth. Fe ganiateir hynny dim ond os oes yna gynnig ailddatblygu dilys wedi ei gynnwys efo’r cais. Ni fydd angen cydsyniad ardal gadwraeth ar gyfer gwaith ar y rhan fwyaf o waith arall fel rheol.

Byddai canlyniad unrhyw gais cynllunio ar gyfer safleoedd mewn ardaloedd cadwraeth yn ystyried diogelu neu wella cymeriad neu ymddangosiad yr ardal bob amser.

Sut mae ymgeisio am gydsyniad ardal gadwraeth?

Gallwch ymgeisio ar-lein drwy’r porthol cynllunio, lawrlwytho ffurflen gais neu ofyn am ffurflen gan yr adran gynllunio.

Ymgeisio ar-lein am gydsyniad ardal gadwraeth drwy’r porthol cynllunio (gwefan allanol)

Neu allwch ymgeisio gan lawrlwytho ffurflen gais neu ofyn am ffurflen gan yr adran gynllunio.

Coed mewn ardaloedd gadwraeth

Os byddwch yn cynllunio gwneud gwaith ar goed mewn ardaloedd cadwraeth, yna byddai’n rhaid i chi roi rhybudd o chwe wythnos o leiaf i’n hadran gynllunio er mwyn gwneud hynny. 

Ewch i'r dudalen gorchmynion cadw coed am fwy o wybodaeth.