Apeliadau cynllunio

Fe allwch chi gyflwyno apêl i'r Arolygiaeth Gynllunio Cymru os yw eich cais cynllunio yn cael ei wrthod. Dim ond y person ddaru wneud y cais sy’n gallu apelio.

Fe allwch chi apelio os ydym ni’n:

  • gwrthod eich cais
  • rhoi caniatâd cynllunio gydag amodau rydych chi’n eu gwrthwynebu
  • gwrthod newid neu ddileu amod caniatâd cynllunio
  • gwrthod cymeradwyo rhywbeth a gadwyd yn ôl dan 'ganiatâd amlinellol' - caniatâd cynllunio ar gyfer syniad cyffredinol, nid cynllun penodol
  • gwrthod cymeradwyo rhywbeth y dywedwyd wrthych chi am ei adeiladau gan y Cyngor fel rhan o ganiatâd cynllunio blaenorol (h.y. rhoddwyd y caniatâd cynllunio blaenorol 'gydag amodau' ac mae’r datblygiad arfaethedig yn un o'r amodau)
  • methu gwneud penderfyniad ar y cais o fewn y terfyn amser ac yn methu derbyn caniatâd ysgrifenedig gennych chi i newid y dyddiad cau

Cyflwyno Apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio Cymru (gwefan allanol)

Fe allwch chi hefyd apelio yn erbyn rhybudd gorfodi yr ydym ni wedi ei gyflwyno i chi. 

Sut i apelio yn erbyn rhybudd gorfodi.

Pryd y dylwn i gyflwyno’r apêl?

Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno apêl i’w weld yn y Nodiadau Arbennig i’r Ymgeisydd ar eich hysbysiad o benderfyniad, neu fel arall gweler Adran 12 y Llawlyfr Rheoli Datblygu (gwefan allanol).

Pwy sy'n penderfynu ar yr apêl?

Mae’n rhaid cyflwyno apêl o fewn 6 mis o ddyddiad y llythyr yn eich hysbysu o’n penderfyniad.

Os nad oes penderfyniad wedi ei wneud, mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch apêl o fewn 6 mis o'r dyddiad y dylai'r penderfyniad fod wedi ei wneud gennym ni.